Beth syn gyffredin i bob un or cadeiriau
Beth sy’n gyffredin i bob un o’r cadeiriau hyn? Ydych chi’n gallu gweld coesau ar y cadeiriau hyn? edd i s s e O n? bob u Su nh t byd w eic ’n c dan h c ynn a ef n? l
Ydy pob cadair yn edrych yr un peth? Pa nodweddion dylunio y gellir eu newid i wneud cadeiriau yn rhai arbennig, unigolyddol? Sawl coes sy i’r gadair hon? Oes coesau i’r gadair hon? Sut mae’r sedd a’r cefn wedi cael eu dylunio?
O ba ddefnyddiau mae cadeiriau yn gallu cael eu gwneud? Ydy’r gadair gyfan yn cael ei gwneud o’r un defnydd? O ba beth mae’r cadeiriau hyn wedi cael eu gwneud? Allai’r cadeiriau hyn gael eu gwneud y siâp hwn gan ddefnyddio defnydd gwahanol? Mae sedd bren i’r gadair bren yma… ond mae sedd ffabrig cwiltiog i’r gadair bren hon. Pam?
Pam mae angen cadeiriau arnom? I ba bwrpas rydyn ni’n eu defnyddio? Ydyn ni’n defnyddio’r un gadair at ddibenion gwahanol? Beth sy’n gwneud i ni ddewis dyluniadau gwahanol? Pa gadeiriau sy’n rhoi cynhaliaeth i’ch breichiau? Ym mha un o’r cadeiriau hyn fyddech chi’n ymlacio? Pa gadair fyddai’n gallu mynd yn eich gardd? Pa gadair fyddai’n gallu mynd yn eich cegin? Pa gadeiriau sydd â dyluniadau diddorol? Ydyn nhw’n edrych yn gyffyrddus?
Sut gall cadair o’r un dyluniad gael ei defnyddio’n wahanol? Pa newidiadau y gellir eu gwneud i gadeiriau? Pam mae rhai defnyddiau’n cael eu dewis? Pam mae’r cadeiriau hyn o faint gwahanol? Am bwy mae’n rhaid i ddylunwyr cadeiriau feddwl er mwyn creu’r cynnyrch iawn? Pam mae’r cadeiriau hyn wedi’u gwneud allan o fetel a phlastig?
- Slides: 6