BERFAU Terfyniadau PresennolDyfodol prynaf pryni pryn aiffith prynwn
BERFAU
Terfyniadau Presennol/Dyfodol prynaf pryni pryn -a/-iff/-ith prynwn prynwch prynant
Terfyniadau’r Gorffennol prynaist prynodd prynom prynoch prynasant
Terfyniadau’r Amherffaith prynwn prynet prynai prynem prynech prynent
Pa amser yw’r berfau hyn? cerddwn i gwelodd gwelai bwytaf cysgem eisteddwn ni clywom
Creu Brawddeg Er mwyn creu brawddeg yn dangos yn eglur defnydd ac ystyr y berfau, mae’n rhaid: • Edrych yn ofalus ar derfyniad y ferf ac andabod yr amser • Defnyddio tag amser yn y frawddeg • Sicrhau nad oes berf arall yn gallu cael ei defnyddio yn y frawddeg
cerddwn i Beth yw ei ystyr? Roeddwn i yn arfer cerdded… Ers talwm, pan oeddwn i’n yr ysgol gynradd, cerddwn i i’r ysgol bob bore.
gwelodd Beth yw ei ystyr? Mae o/hi/Sion…wedi gweld Ar y ffordd i’r ysgol bore ddoe, gwelodd Sion ddamwain ddrwg ar y ffordd ddeuol.
gwelai Beth yw ei ystyr? Roedd o/hi/Sion yn arfer gweld… Cyn i nain Sion fynd i’r ysbyty, gwelai hi yn ddyddiol ar ôl yr ysgol.
bwytaf Beth yw ei ystyr? Rydw i/Bydda i’n bwyta Er mwyn gallu mynd i’r ymarfer hoci’n gynnar, mi fwytaf fy nghinio am hanner dydd yfory.
cysgem Beth yw ei ystyr? Roedden ni’n arfer cysgu…. Pan oeddem yn blant, cysgem gyda’n gilydd mewn carafan bob gwyliau haf.
eisteddwn ni Beth yw ei ystyr? Rydyn ni/Byddwn ni yn eistedd Bore heddiw, mi eisteddwn ni yn nhu blaen y bws er mwyn gweld yr olygfa.
clywom/clywon Beth yw ei ystyr? Rydyn ni wedi clywed… Mi glywom ar y radio bore ma fod y prifweinidog wedi ymddeol.
BERFAU AMHERSONOL Beth yw berf amersonol? Nid oes GODDRYCH i ferf amhersonol h. y. nid y goddrych sy’n gwneud y weithred
Terfyniadau’r amhersonol prynir Mae/Bydd rhywbeth yn cael ei brynu prynwyd Cafodd rhywbeth ei brynu prynid Roedd rhywbeth yn arfer cael ei brynu
Creu brawddeg gyda’r amhersonol cenir Mae’r terfyniad yn dangos mai’r amser presennol neu ddyfodol sydd ei angen Byddwn yn dilyn yr un camau â’r arferol • Edrych yn ofalus ar derfyniad y ferf ac andabod yr amser • Defnyddio tag amser yn y frawddeg • Sicrhau nad oes berf arall yn gallu cael ei defnyddio yn y frawddeg
cenir Ystyriwch sut i’w ddweud yn y ffurf hir/cwmpasog: 1. Mae (rhywbeth) yn cael ei ganu 2. Bydd (rhywbeth) yn cael ei ganu
Brawddegau 1. Eleni, cenir yr anthem genedlaethol ar ddechrau bob gêm rygbi ryngwladol gan Bryn Terfel. [presennol] 1. Y flwyddyn nesaf yn yr eisteddfod genedlaethol, cenir rhan o’r Meseia gan gôr yr eisteddfod. [dyfodol]
gwelwyd Beth yw ei ystyr? Mae rhywbeth wedi cael ei weld neu Mi ddaru rhywbeth gael ei weld
Brawddegau 1. Ar y teledu neithiwr gwelwyd darluniau erchyll o newyn ar y rhaglen Panorama. 2. Gwelwyd y bachgen a fu’n lladrata yn yr archfachnad ddoe gan nifer o lygaddystion.
gwisgid Beth yw ei ystyr? Roedd rhywbeth yn arfer cael ei wisgo
Brawddegau 1. Ers talwm, gwisgid clocsiau gan blant am eu traed. 2. Pan oedd fy rhieni yn yr ysgol uwchradd, gwisgid gwisg ysgol llawer mwy ffurfiol gan y disgyblion
GWALLAU CYFFREDIN Beth yw’r gwall? 1. Sonir yr awdur am ei blentyndod. 2. Defnyddir y bardd gynghanedd yn ei gerddi. 3. Cyhoeddir yr awdur nifer o gyfrolau
Beth yw’r ateb? Nid oes GODDRYCH i ferf amhersonol 3 ydd person unigol amser presennol y ferf sydd ei angen: 1. Sonia’r awdur 2. Defnyddia’r bardd 3. Cyhoedda’r awdur
Beth yw’r gwall? 1. Gofynnais wrtho ddod i’m gweld. 2. Bydd hi’n gwrando i gerddoriaeth 3. Aeth Sian i’r deintydd bore heddiw. 4. Dywedodd y cyfan i’w athro.
Beth yw’r ateb? ARDDODIAD anghywir gyda’r ferf gofynnais wrtho > gofynnais iddo gwrando i > gwrando ar aeth Sian i > aeth Sian at dweud i > dweud wrth
- Slides: 26