BERFAU AMODOL Pryd rydym yn defnyddio berfau amodol
BERFAU AMODOL
Pryd rydym yn defnyddio berfau amodol? • Rydym yn defnyddio’r AMODOL pan fo amod yn y frawddeg. • Mae berfau’r amodol yn diweddu gyda therfyniadau’r amser amherffaith e. e. - wn i - em - et ti - ech - ai o/hi - ent
Enghreifftiau… buaswn i… buaset ti… buasai o/hi… buasem ni… buasech chi… buasent hwy… dylwn i… dylet ti… dylai o/hi… dylem ni… dylech chi… dylent hwy… gallwn i gallet ti gallai o/hi gallem ni gallech chi gallent hwy pe pe pe hoffwn i hoffet ti hoffai o/hi hoffem ni hoffech chi hoffent hwy byddwn i byddet ti byddai o/hi byddem ni byddech chi byddent hwy bawn i baet ti bai o/hi baem ni baech chi baent hwy
Sut i ddefnyddio’r amodol mewn brawddeg… Wrth greu brawddeg gyda’r amodol mae’n bwysig cael berf amodol yn ail ran y frawddeg e. e. Berfau amodol yn cyfateb i’w gilydd Pe bawn i’n ennill y loteri buaswn i’n mynd ar wyliau o amgylch y byd.
Mwy o enghreifftiau… Pe baech yn adolygu’r gwaith gramadeg yn gyson, dylech weld y gwaith yn dod yn rhwyddach! Hoffai fy mrawd gael car newydd pe bai yn gallu fforddio hynny ar ôl cychwyn gweithio.
Beth am greu… Rhowch gynnig arni: pe bawn i buasai hi gallem ni dylet ti byddwn i hoffai o Wrth fario gwaith eich gilydd, gwnewch yn siwr fod gennych ferfau amodol yn cyfateb i’w gilydd.
OS a PE… • Mae’r ddau air yma’n cyfateb i’r Saesneg ‘if’ • O flaen berfau amodol, rhaid defnyddio’r ffurf PE ar ddechrau brawddeg • Gallwn ddefnyddio OS o flaen berfau nad ydynt yn amodol
Enghreifftiau… ‘Pe bawn i’n artist mi dynnwn lun Rhyfeddod yn machlud dros Benrhyn Llŷn’ Berfau amodol sydd yn y frawddeg uchod Os caf i raddau da yn fy arholiadau, byddaf yn mynd i goleg Aberystwyth. Does dim berfau amodol yn y frawddeg uchod
Gwallau posibl… Defnyddio OS o flaen berf amodol e. e. Os buasai yn adolygu byddai’n llwyddo. Mae ‘buasai’ yn ferf amodol felly rhaid defnyddio PE yn hytrach nag OS Cywiriad: Pe buasai’n adolygu byddai’n llwyddo.
Ble mae’r gwall? Os buaswn i’n cael fy newis, byddwn yn derbyn y cynnig. Os byddem ar amser, gallem gael cyfnod yn yr amgueddfa. Os buasai yn dysgu ei waith byddai’n siwr o bario’r arholiad.
Sut ydw i’n egluro’r gwall? Mae’n rhaid defnyddio PE o flaen berf amodol ar ddechrau brawddeg
Camddefnyddio OS… Weithiau ar lafar, rydym yn defnyddio OS mewn brawddeg lle nad oes amod e. e. Dw i ddim yn siwr os fydda i yma yfory. Does dim amod yn y frawddeg uchod. Yn hytrach cwestiwn anuniongyrchol sydd yna. Sut ddylwn i gywiro?
Dw i ddim yn siwr a fydda i yma yfory. Ydych chi’n gweld y gwall? 1. 2. 3. 4. Wn i ddim os ydy o’n gall. Gofynaf os caf i fynd yn gynnar. Dw i ddim yn siwr os ydw i’n cofio. Dydy o ddim yn gwybod os ydy’r ateb yn gywir. DOES DIM AMOD YN Y BRAWDDEGAU HYN!
Sut ddylwn i gywiro ac esbonio? Gwall Cywiriad Esboniad os ydy o’n gall a ydy o’n gall Does dim amod yn y frawddeg. Cwestiwn annuniongyrchol sydd yma ac felly yr ‘a’ cwestiwn sydd ei angen yn hytrach na’r amod ‘os. os caf fynd a gaf i fynd Does dim amod yn y frawddeg. Cwestiwn annuniongyrchol sydd yma ac felly yr ‘a’ cwestiwn sydd ei angen yn hytrach na’r amod ‘os. os ydw i’n cofio a ydw i’n cofio Does dim amod yn y frawddeg. Cwestiwn annuniongyrchol sydd yma ac felly yr ‘a’ cwestiwn sydd ei angen yn hytrach na’r amod ‘os. os ydy’r ateb yn gywir a ydy’r ateb yn gywir Does dim amod yn y frawddeg. Cwestiwn annuniongyrchol sydd yma ac felly yr ‘a’ cwestiwn sydd ei angen yn hytrach na’r amod ‘os.
- Slides: 14