BEDYDD Y FFORDD I DDOD YN GRISTION Bedydd
BEDYDD Y FFORDD I DDOD YN GRISTION
Bedydd yw sacrament (defod) pwysicaf Cristnogaeth.
SACRAMENT • Ym mwyafrif eglwysi Cristnogol, cyfeirir at ddefodau pwysig fel sacramentau. • Daw’r gair o’r Lladin, ‘sacramentum’, sy’n golygu arwydd neu symbol sanctaidd. • Yn yr Eglwys Gatholig, mae 7 sacrament: bedydd, conffyrmasiwn, penyd (i faddau pechodau; gellir cael penyd o 7 oed ymlaen), Ewcharist/cymun (derbynnir Ewcharist am y tro cyntaf yn ystod yr arddegau), priodas, ordinhad (mynd yn offeiriad), ac yr eneiniad olaf (eneinio unigolyn sydd ar ei wely angau).
TARDDIAD BEDYDD • Daw’r gair ‘bedydd’ o’r gair Groeg ‘baptizein’, sy’n golygu ‘ymolchi’ neu ‘lanhau’. • Yn y Testament Newydd, cyfeiria’r term at y bedydd a roddodd Ioan Fedyddiwr yn Afon Iorddonen er mwyn edifarhau unigolion. • Cafodd Iesu ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr.
• Roedd Ioan Fedyddiwr yn pregethu mai’r ffordd y dylid ei dilyn er mwyn goroesi’r byd llygredig (corrupt) hwn a chyrraedd Teyrnas Dduw (nefoedd) oedd drwy gael bedydd. • Roedd bedydd yn hen ddefod Iddewig – un a ddefnyddid er mwyn glanhau a phuro. • Derbyniodd Iesu neges Ioan Fedyddiwr, cafodd ei fedyddio a mabwysiadu’r ddefod yn rhan o’i ddysgeidiaeth yntau. TARDDIAD BEDYDD
SEILIAU BEIBLAIDD • I Gristnogion, mae rheidrwydd bedyddio yn rhannol seiliedig ar y gorchymyn a roddodd Iesu i’w ddisgyblion – y dylid bedyddio pawb ym mhob man yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân (Mathew 28: 17 -20). • Yn y TN, ystyrir bedydd fel rhywbeth yn dynodi aelodaeth i’r gymuned Gristnogol. • Yn llyfr yr Actau, gorffenna Pedr bregeth gynnar gyda’r geiriau canlynol, wedi’u cyfeirio at y sawl a oedd eisiau gwybod beth oedd yn rhaid iddynt ei wneud er mwyn cael eu hachub: ‘Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd’ (Actau 2: 38).
SEILIAU BEIBLAIDD • Yn ysgrifau Paul, mae bedydd yn arfer sefydledig a chanddo ystyr diwinyddol – yn nhermau marw a chyfodi gyda Christ (Rhuf. 6: 1 -4), ac yn nhermau o fod yn ‘gwisgo Crist’. • Galatiaid 3: 26 -28: ‘Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. Nid oes rhagor rhwng Iddew a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu. ’
SEILIAU BEIBLAIDD • Mae Paul yn ystyried bedydd fel cyfatebiaeth ysbrydol i enwaediad (Colosiaid 2: 11 -12). • Roedd yr Eglwys Fore’n ystyried cyswllt clir rhwng bedydd yn enw’r Cyfamod Newydd ac enwaediad dan yr Hen Gyfamod. • Dadleuai’r Eglwys Fore, yn yr un modd ag yr oedd enwaediad yn arwydd cyfamodol, yn dynodi bod rhywun yn perthyn i bobl Israel, felly hefyd yr oedd bedydd yn arwydd o fod yn perthyn i gymuned cyfamod yr Eglwys.
BEDYDD YN YR EGLWYS FORE • Roedd yr arfer o fedyddio plant yn gyffredin erbyn diwedd yr ail ganrif OC. • Yn yr ail ganrif, roedd Origen (y Tad Eglwysig) yn ystyried bod bedydd plant yn arfer cyffredin drwy’r byd, ac mae’n cyfiawnhau hynny drwy nodi’r angen am i’r byd cyfan brofi gras Crist.
BEDYDD YN YR EGLWYS FORE • Cafwyd dadl gyffelyb gan Awstin Sant: gan fod Crist yn iachawdwr pawb, dylai pawb edifarhau – gan gynnwys plant – drwy dderbyn bedydd. • Ond nid oedd yr holl Dadau Eglwysig Cynnar hyn o blaid bedyddio plant. Er enghraifft, gwelwyd yn ysgrifau Tertullian feirniadaeth yn mynnu na ddylid bedyddio plant tan eu bod yn ddigon hen ac aeddfed i ‘adnabod Crist’.
BEDYDDIO PLANT PAM? PRYD? I BETH?
A DDYLID BEDYDDIO PLANT? • Mae tair ffordd benodol yn hanes y traddodiad Cristnogol o ymateb i’r cwestiwn a ddylid bedyddio plant.
1. Dylid. . . oherwydd mae bedyddio plant yn maddau’r pechod gwreiddiol (pechod Adda ac Efa yng Ngardd Eden). • Cyprian o Garthage a awgrymodd hyn yn gyntaf, drwy ddatgan bod plant yn haeddu maddeuant am weithredoedd pechadurus a’r pechod gwreiddiol. • Ymhelaethodd Awstin Sant drwy gyfeirio at Gredo’r Apostolion (Apostle’s Creed) a datgan fod yna ‘Un bedydd i faddau pechod’, ac felly fod bedyddio plant yn dileu’r pechod gwreiddiol. • Un cwestiwn a godai yn y cyswllt hwn – os oedd bedydd yn dileu’r pechod gwreiddiol, pam oedd y plant hynny’n pechu pan yn oedolion?
1. Dylid. . . oherwydd mae bedyddio plant yn maddau’r pechod gwreiddiol (pechod Adda ac Efa yng Ngardd Eden). • Ateb Awstin oedd bod bedydd yn dileu euogrwydd y pechod gwreiddiol ond bod effeithiau’r pechod hwnnw’n parhau. Yr unig ffordd i ddileu effeithiau’r pechod oedd drwy fyw bywyd Cristnogol da. • Cwestiwn arall a gyfyd – beth sy’n digwydd i’r sawl sy’n marw heb gael eu bedyddio, boed yn blentyn neu’n oedolyn? Os yw bedydd yn dileu euogrwydd y pechod gwreiddiol, byddai person sy’n marw heb gael ei fedyddio’n marw’n euog. • Yn ôl Awstin, ni all pobl o’r fath gael eu hachub.
2. Dylid. . . Oherwydd bod bedydd plant wedi ei wreiddio yn y cyfamod rhwng Duw a’r Eglwys. • Ystyrir bedydd plant yn yr Eglwys fel cyfatebiaeth i enwaedu bechgyn mewn Iddewiaeth. Er bod y syniad hwn i’w ganfod yng nghyfnod y Tadau Cynnar, fe’i trafodwyd yn helaethach gan y Diwygiwr o’r Swistir, Huldrych Zwingli. • Dadleuodd Zwingli fod yr HD yn nodi y dylai bechgyn a anwyd yn Israel fod ag arwydd allanol i ddynodi eu haelodaeth i bobl Dduw. Yr arwydd hwn yw enwaediad. Roedd bedydd plentyn felly’n gydnaws ag enwaediad – arwydd o fod yn perthyn i gymuned y cyfamod.
• Dadleuodd Zwingli ymhellach fod natur gymhwysol (inclusive) Cristnogaeth yn sicrhau bod gwrywod a benywod yn cael eu bedyddio; yn wahanol i Iddewiaeth sydd ond yn enwaedu bechgyn.
3. Na ddylid. . . Am nad yw bedydd plant wedi’i gyfiawnhau. • Gyda datblygiad y Diwygiad radicalaidd yn yr 16 eg ganrif, a chyda datblygiad Eglwysi’r Bedyddwyr yn Lloegr yn ystod yr 17 eg ganrif, gwelwyd ymwrthod â’r arfer traddodiadol o fedyddio plant. Roedd bedydd i’w roi unwaith fod yr unigolyn yn gallu dangos arwydd o ras, edifeirwch neu ffydd.
Yn fwy diweddar, mae bedyddio plant wedi cael ei feirniadu’n hallt yn ysgrifau’r diwinydd o’r ugeinfed ganrif, Karl Barth. Dadleua Barth: 1. Nad oes gan fedydd plant seiliau Beiblaidd. • Mae’r holl dystiolaeth yn y Beibl yn cyfeirio at fedyddio oedolion nid plant. Arfer a ddatblygwyd oedd bedyddio plant.
2. Mae bedyddio plant wedi arwain at y rhagdybiaeth fod unigolion yn Gristnogion o ganlyniad i’w genedigaeth. • Dadleua Barth fod bedydd yn gwneud gras Duw yn ddiwerth ac yn darostwng Cristnogaeth i fod yn ffenomen gymdeithasol yn unig.
3. Mae bedyddio plant yn gwanychu’r cyswllt canolog rhwng bedydd a disgyblaeth Gristnogol. • Mae bedydd yn tystio i ras Duw, ac mae’n dynodi dechrau ymateb unigolyn i ras Duw. Gan na all plant ymresymu, nid oes gwerth i’w bedyddio.
BEDYDD HEDDIW • Mae Cristnogion heddiw’n gytûn i dderbyn bedydd fel defod sy’n sicrhau aelodaeth i’r gymuned Gristnogol a chanddi wreiddiau yn y TN, ond maent yn rhanedig ynghylch arfer a diwinyddiaeth. • Byddai’r Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwys Uniongred yn aml yn bedyddio plant yn aelodau’r eglwys, ac maent yn ystyried bedydd fel defod sy’n arwain y
• Mae Anglicaniaid a phrif enwadau Protestaniaeth yn bedyddio plant, ond nid ydynt yn cytuno’n llwyr ar effeithioldeb ysbrydol y ddefod. • Fodd bynnag, mae mwyafrif yr eglwysi hyn yn ystyried beddyddiadau ei gilydd yn ddilys ac nid oes angen ailfedyddio troedigion (converts). • Mae Bedyddwyr a Christnogion efengylaidd, fodd bynnag, yn gwadu effeithioldeb bedydd plant ac yn mynnu y dylai troedigion o eglwysi eraill gael eu bedyddio a’u hailfedyddio fel oedolion.
‘Infant Baptism violates human rights’ • Dywedodd cyn-Arlywydd Iwerddon, Mary Mc. Aleese, fod bedyddio plant yn weithred o orfodi crefydd ar blant ac y dylai’r Eglwys Gatholig newid ei harfer. • Mae bedyddio plant, meddai, yn gwneud ‘infant conscripts who are held to lifelong obligations of obedience. ’ • ‘But you and I know, we live now in times where we have the right to freedom of conscience, freedom of belief, freedom of opinion, freedom of religion and freedom to change religion. The Catholic Church yet has to
• ‘What the church has failed to do is to recognise that there has to be a point at which our young people, as adults who have been baptised into the church and raised in the faith, have the chance to say “I validate this” or “I repudiate this. ”’ • https: //www. catholicnewsagency. com/news/infant-baptism-violateshuman-rights-says-former-irish-president-77917
ARWYDDOC D • Mae cydnabyddiaeth gyffredin i bwysigrwydd bedydd, ynghyd ag amrywiaeth barn ynghylch ei ystyr, wedi arwain at drafodaeth ecwmenaidd (h. y. cynnwys amryw draddodiadau eglwysig gwahanol) i ddeall y gwahanol draddodiadau’n llawn. • Efelychu Iesu’n cael ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr. • Arwydd o ymroi’n llwyr i Gristnogaeth. • Arwydd o ffydd. • Dangos eich bod yn addo byw’n gywir fel Cristion er mwyn ymgyrraedd â gras Duw. • Defod gymdeithasol. • Dyfod yn aelod o gymdeithas.
DARLLEN PELLACH • Alister E. Mc. Grath, An Introduction to Christianity, tt. 363 -74. • Linda Woodhead, An Introduction to Christianity. • Lindberg, A Brief History of Christianity. • John Bowden (gol. ), Christianity: The Complete Guide, tt. 1060 -1071.
- Slides: 27