Atomau C 1 Atebwch y cwestiynau hyn ar
Atomau C 1. Atebwch y cwestiynau hyn ar atomau: a) Beth yw atom? b) Sawl gwahanol gronyn is-atomig sy’n gwneud atom? c) Beth yw eu henwau? d) Beth yw niwclews? e) Beth yw plisgyn electronau? f) Ble caiff y rhan fwyaf o fas atom ei grynhoi? g) Beth sydd rhwng y niwclews a’r electronau? C 2. Cwblhewch y labeli A, B a C ar y diagram gyferbyn. C 3. Cwblhewch y tabl isod: C 4. Mae gan atom ddiamedr o tua 10 -10 m. Sawl un fyddai’n ffitio mewn rhes ar draws pen pin 0. 1 mm o led? C 5. Mae pob atom yn niwtral. Os oes gan atom saith electron, sawl proton sydd ganddo? C 6. Atebwch y cwestiynau canlynol ar y rhif atomig a’r rhif mas. a) Beth mae’r rhif atomig yn dwedu wrthym? b) Beth mae’r rhif mas yn dweud wrthym? c) Beth mae’r llythrennau A a Z yn y diagram yn eu cynrychioli? d) Beth yw A - Z? e) Sawl proton sydd mewn atom lithiwm? f) Sawl electron sydd mewn atom lithiwm? g) Sawl niwtron sydd mewn atom lithiwm? h) Pa rif (mas neu atomig) sy’n penderfynu pa elfen yw’r atom? C 7. Cyfrifwch nifer y protonau, electronau a niwtronau sydd yn yr atomau canlynol: C 8. Beth yw isotop?
Strwythur electronig C 1. Gellir cymharu atom gyda chysawd yr Haul. Disgrifiwch y tebygrwydd. C 2. Beth sy’n atynnu’r electronau at y niwclews? C 3. Rhowch enw arall am orbit electron. C 4. Cwblhewch y tabl isod i ddangos meintiau’r plisg electronau: Caiff atomau eu trefnu mewn grwpiau a chyfnodau yn y Tabl Cyfnodol: C 5. Cwblhewch y tabl isod: Elfen Symbol Nifer yr electronau Strwythur electronig Grwp Cyfnod 6 3 Lithiwm B P Ar Magnesiwm Fflworin 20 C 6. Mae patrwm rhwng strwythur electronig atom a’i grwp a’i gyfnod. Beth yw’r patrwm yn eich tyb chi?
- Slides: 2