Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Arddulliau Arwain Uned
Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Arddulliau Arwain (Uned 2 – Adnoddau Dynol)
Man cychwyn • Beth sy’n gwneud arweinydd da? Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Rhestrwch nodweddion arweinydd da: (Defnyddiwch y pin ysgrifennu i nodi eich syniadau isod)
Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes • Mae arweinyddion yn gallu mabwysiadu gwahanol “ARDDULLIAU” arwain. • Mae gwahanol arddulliau arwain yn cael effeithiau gwahanol ar weithwyr ac os yw rheolwr yn mabwysiadu arddull ADDAS o arwain, gallai ysgogi staff i weithio’n galed! • Mae sawl arddull arwain gwahanol, ac ar gyfer Astudiaethau Busnes TGAU mae angen i ni wybod am: Arweinyddion UNBENAETHOL Arweinyddion DEMOCRATAIDD
Arddull Arwain 1 – “UNBENAETHOL” Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes ? • Mae’n rhaid ufuddhau iddynt • Maent yn credu mae nhw yw’r gorau • Mae nhw’n ei gwneud hi’n glir i’w staff yn union beth sydd angen ei wneud • Does dim cyfle yn cael ei roi i weithwyr i wneud penderfyniadau
Arddull Arwain 2 – “DEMOCRATAIDD” • Mae’r math yma o arweinydd yn credu fod gwneud penderfyniadau yn well os yw’r broses yn cael ei RHANNU Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes • Maent am gael eu gweld yn bod yn DEG • Maent yn gofyn i’w gweithwyr am syniadau ac awgrymiadau • Maent yn credu mewn gadael i’w staff ddatblygu trwy eu cynnwys mewn penderfyniadau ar sut i wella’r busnes ?
– MAE ARWEINYDD UNBENAETHOL YN: Nodiadau’r disgybl Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes (Gwnewch nodiadau fesul nodwedd ym mhob blwch gan ddefnyddio’r pin ysgrifennu) ?
Nodiadau’r disgybl – Mae ARWEINYDD DEMOCRATAIDD YN: Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes (Gwnewch nodiadau fesul nodwedd ym mhob blwch gan ddefnyddio’r pin ysgrifennu) ?
Edrychwch ar y datganiadau isod am fanteision ac anfanteision o arddull ARWAIN UNBENAETHOL (Cliciwch a llusgwch pob nodwedd i’r blwch perthnasol) Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Manteision Mae gweithwyr yn gallu teimlo’n ddiogel gan eu bod yn dilyn gorchmynion a ddim yn gorfod meddwl dros eu hunain! Gallai gweithwyr golli cymhelliant gan nad ydynt yn cael y cyfle i fynegi eu syniadau. Anfanteision Yn cael pethau wedi’u gwneud yn gyflym. Yn caniatáu gwneud penderfyniadau cyflym. Gallai fod yn dda mewn sefyllfa o argyfwng. Gallai arwain at staff yn gadael y cwmni os ydynt yn teimlo na allant wneud penderfyniadau. Gallai staff deimlo nad ydynt yn ddigon pwysig.
Edrychwch ar y datganiadau isod am fanteision ac anfanteision o arddull ARWAIN DEMOCRATAIDD (Cliciwch a llusgwch pob nodwedd i’r blwch perthnasol) Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Manteision Anfanteision Gallai gweithwyr deimlo cymhelliant gan eu bod yn gallu gweld eu syniadau NHW yn cael eu defnyddio yn y busnes! Bydd gwneud penderfyniadau yn cymryd mwy o amser. Gallai achosi diffyg cymhelliant os yw’r arweinydd yn cymryd y clod am syniadau’r gweithwyr. Ddim yn addas mewn sefyllfa o argyfwng. Gallai staff deimlo fod yr arweinydd yn cymryd mantais ohonynt GADEWCH IDDYN NHW feddwl am syniadau OS ydynt mor glyfar â hynny!
Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Cysylltwch yr Arddulliau Arwain i’r Mathau Gwahanol o Fusnes …. . Cliciwch a llusgwch yr enghreifftiau isod i’r cylch arddull arwain priodol. DEMOCRATAIDD UNBENAETHOL Uwch Bartner mewn meddygfa Ditectif Arolygydd yn yr Heddlu Pennaeth Adran mewn ysgol Rheolwr Salon Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni maint canolig gyda 30 o weithwyr. Prif Weinidog yng nghyfarfod y cabinet Milwr yn y Fyddin Rheolwr swyddfa yn yr Adran Adnoddau Dynol
Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Effaith Gwahanol Arddulliau Arwain ar Gymhelliant Staff • Rwy’n reolwr swyddfa yn yr Adran Adnoddau Dynol mewn cwmni mawr yn y dre. • Mae 30 o staff yn yr adran ac mae 25 o’r rhain â phlant yn yr ysgol. • Mae problemau wedi codi gyda staff i gyd am gymryd gwyliau yn ystod Gorffennaf ac Awst OND byddai hynny’n gadael y swyddfa yn brin o bobl i gyflawni’r gwaith (dim ond 6 o bobl sy’n gallu bod allan o’r swyddfa ar amser penodol). • Rwyf wedi penderfynu galw cyfarfod staff a bwriadaf gynnig: • Gallant NAILL AI gytuno yn y cyfarfod pwy sy’n cymryd pa ddyddiadau gwyliau NEU • Gallant gyflwyno eu ceisiadau am wyliau a dyfarnir y rheiny ar sail cyntaf i’r felin. Pa arddull arwain sydd gennyf? Faint o gymhelliant fyddai gennych chi pe bai chi’n gweithio i mi, a pham?
Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Effaith Gwahanol Arddulliau Arwain ar Gymhelliant Staff • Fi yw DCI Hunt o’r sgwad Cyffuriau. Bore ’ma rydym am roi cyrch ar gartref gwerthwr cyffuriau sy’n adnabyddus yn lleol. • Bydd heddlu arfog yn mynd i mewn yn gyntaf, gan ei bod yn debygol y bydd y troseddwr wedi ei arfogi. Bydd Twm a Del, y cŵn synhwyro, gyda’r heddlu arfog, a byddant yn mynd i mewn i’r tŷ i ddarganfod lleoliad y cyffuriau. Byddwch chi yn fy nilyn PAN RODDAF Y GORCHYMYN. • Gwnewch yn siŵr eich bod I GYD yn gwisgo’ch offer diogelwch cyn cyfarfod yma am 5 am ar ei ben. Unrhyw gwestiynau? Pa arddull arwain sydd gennyf? Faint o gymhelliant fyddai gennych chi pe bai chi’n gweithio i mi, a pham?
Casgliadau …. Rydym wedi gweld arddulliau gwahanol o arwain: Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes • A fyddech yn dweud fod dull “cywir” ac “anghywir” o arwain pobl? • Eglurwch eich syniadau …
Mae Jamie newydd gael ei ddyrchafu’n reolwr siop esgidiau. Mae hi’n siop brysur o ran cwsmeriaid yn edrych o gwmpas, ond does fawr o wario yn digwydd yno. Mae 4 cynorthwyydd yn gweithio iddo. Penderfynodd Jamie i drafod syniadau o SUT y gallant fynd ati i gynyddu gwerthiant yr esgidiau yn y siop. Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Tasg Ysgrifenedig Cynllun Marcio
Arddulliau Arwain TGAU Astudiaethau Busnes Cynllun Marcio Atebion Lefel 2… Atebion Lefel 3. . a) Ydych chi wedi defnyddio brawddegau llawn? b) Ydych chi’n gwybod y termau allweddol ac am beth yr ydych yn ysgrifennu? c) Ydych chi wedi egluro eich atebion YN LLAWN? d) Ydych chi wedi rhoi barn SYLFAENOL ar y diwedd? e) Ydych chi wedi rhoi eich barn gan ei gefnogi a’i egluro yn gryno? f) Ydych chi wedi rhoi eich barn gan ei gefnogi’n llawn â hyd at 2 reswm da?
- Slides: 15