Amddiffyniadau ar gyfer Esgeulustod Amcanion y Wers Erbyn
Amddiffyniadau ar gyfer Esgeulustod
Amcanion y Wers Erbyn diwedd y sesiwn dylech chi allu: 1. Egluro'r amddiffyniad volenti non fit injuria. 2. Egluro esgeulustod cyfrannol. 3. Disgrifio ex turpi causa non oritur actio.
Volenti non fit injuria • Dyma'r Lladin am “i berson bodlon, ni wneir niwed” • Weithiau caiff hwn ei fyrhau i ‘volenti' • I ddefnyddio volenti yn llwyddiannus rhaid i'r diffynnydd brofi bod yr hawlydd yn ymwybodol o’r risg a'i fod wedi cydsynio o wirfodd i dderbyn y risg hwnnw. • Mae volenti yn amddiffyniad llawn a fydd yn golygu nad oes atebolrwydd am anaf neu golled.
Morris v Murray [1990] Aeth yr hawlydd (Morris) i yfed gyda'i ffrind (Murray) oedd yn meddu ar drwydded beilot. Yna gwahoddodd y ffrind yr hawlydd i fyny yn ei awyren ysgafn. Llywiodd y ffrind yr awyren mor wael nes iddi gwympo. Cafodd y ffrind ei ladd a chafodd yr hawlydd ei anafu'n ddifrifol. Daeth yr hawlydd ag achos yn erbyn ystâd y dyn fu farw am ei anafiadau. Cwestiwn: Beth ydych chi'n meddwl oedd penderfyniad y llys?
Morris v Murray [1990] Dyfarnodd barnwr y treial iawndal i'r hawlydd. Fodd bynnag, mewn apêl derbyniodd y Llys Apêl yr amddiffyniad o volenti a gwrthdroi'r penderfyniad. Yr Arglwydd Ustus Fox: “Yn fy marn i, ar sail y dystiolaeth, roedd yr achwynydd yn gwybod ei fod yn mynd i fyny mewn awyren; roedd yn gwybod mai Mr. Murray fyddai'r peilot; ac roedd yn gwybod Mr. Murray wedi bod yn yfed yn drwm y prynhawn hwnnw. ” http: //www. bailii. org/ew/cases/EWCA/Civ/1990/10. html
Teithwyr mewn Cerbydau • Yn anaml gall volenti gael ei ddefnyddio fel amddiffyniad mewn achos o yrru esgeulus hyd yn oed os yw teithiwr yn derbyn lifft gan yrrwr sy'n amlwg yn feddw. • Mae Deddf Traffig Ffyrdd 1988 a 149(3) yn nodi: Er bod person a gludwyd fel hyn wedi derbyn o wirfodd fel ei risg personol y risg o esgeulustod ar ran y defnyddiwr, ni chaiff y ffaith hon ei thrin fel pe bai'n negyddu unrhyw atebolrwydd o'r fath gan y defnyddiwr. [Efallai yr hoffech chwilio am y gair ‘negyddu’ mewn geiriadur!]
Gweithgareddau Chwaraeon • Fel arfer mae volenti yn amddiffyniad i anafiadau sy'n digwydd yn ystod gweithgareddau chwaraeon oherwydd ystyrir bod y chwaraewyr wedi cydsynio i'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r chwaraeon penodol hynny cyhyd na chafodd yr anafiadau eu hachosi drwy dorri rheolau'r gêm. • Mae rhai gweithgareddau chwaraeon yn creu risgiau i wylwyr, fel cael eu taro gan bêl rygbi wrth wylio gêm mewn stadiwm neu ar faes chwarae. Mae'n ymddangos mai ymagwedd y llysoedd yw nad yw camfarn neu fethiant sgìl yn creu atebolrwydd gan fod y gwyliwr wedi derbyn y risgiau drwy fynd i wylio'r gweithgaredd byw.
Wooldridge v Sumner [1962] Ffeithiau: Yn ystod sioe geffylau cafodd ffotograffydd ei hunan yn llwybr ceffyl oedd yn carlamu. Roedd y dystiolaeth yn anghyson ond awgrymwyd naill ai fod y ceffyl wedi cael ofn neu fod y marchog wedi troi cornel yn rhy gyflym. Cadarnhawyd: Cadarnhaodd y Llys Apêl nad oedd y ddyletswydd gofal oedd yn ddyledus wedi ei thorri gan nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y marchog yn ymddwyn yn esgeulus.
Wooldridge v Sumner [1963] Yr Arglwydd Ustus Diplock: Y peth mwyaf y gellir ei ddweud yn erbyn Mr. Holladay yw, yn ystod ac at ddibenion y gystadleuaeth, roedd yn euog o gamfarn neu gamfarnau neu fethiant sgìl. Nid yw hynny'n ddigon i olygu bod y ddyletswydd o ofal rhesymol y mae'n rhaid i gyfranogwr ei ddangos i wyliwr wedi cael ei thorri. Yn y fath amgylchiadau rhaid profi rhyw fath o ddifaterwch difeddwl ynglŷn â diogelwch y gwyliwr, ac nid oes unrhyw awgrym o hyn yn y dystiolaeth. Yr Arglwydd Ustus Sellers: Nid oes gwell tystiolaeth i ddangos bod Mr. Holladay yn marchogaeth o fewn y rheolau na'r ffaith iddo ennill, er gwaethaf y ddamwain anffodus hon yn ystod y digwyddiad, ac nid wyf yn meddwl y gellir dweud ei fod wedi marchogaeth yn ddiofal ac yn diystyru pob diogelwch neu hyd yn oed ar sail y dystiolaeth hon ei fod heb sgìl [Holladay oedd marchog y ceffyl. Sumner oedd y perchennog. Wooldridge oedd yr hawlydd a'r gwyliwr a gafodd ei anafu. ] http: //www. bailii. org/cgi-bin/format
Amharodrwydd y Llysoedd i Dderbyn Volenti Yn ymarferol mae'r llysoedd yn aml yn amharod i dderbyn volenti fel amddiffyniad. Trafodaeth: Pam rydych chi'n credu bod y llysoedd yn aml yn amharod i dderbyn volenti fel amddiffyniad? Awgrym: Mae volenti yn amddiffyniad llawn ac os caiff ei ddadlau'n llwyddiannus, ni fydd y diffynnydd yn atebol am golledion yr hawlydd. Byddwn yn archwilio'r cwestiwn hwn eto yn ddiweddarach ar ôl i ni ystyried esgeulustod cyfrannol.
Esgeulustod Cyfrannol Yn ôl Deddf Diwygio'r Gyfraith (Esgeulustod Cyfrannol) 1945 a 1(1): Ble mae unrhyw berson yn dioddef o niwed o ganlyniad yn rhannol i'w fai ei hun ac yn rhannol i fai unrhyw berson neu bersonau eraill, ni chaiff hawliad mewn perthynas â'r niwed hwnnw ei drechu oherwydd bod bai ar y person a ddioddefodd y niwed, ond caiff yr iawndal adferadwy mewn perthynas â hynny ei leihau i'r graddau y mae'r llys yn ei farnu'n deg ac yn gyfiawn o ystyried rhan yr hawlydd yn y cyfrifoldeb am y niwed…
Esgeulustod Cyfrannol Bydd esgeulustod cyfrannol yn lleihau'r iawndal sy'n daladwy gan y diffynnydd i’r graddau y cyfrannodd esgeulustod yr hawlydd ei hun at ei anafiadau. Sylwer bod esgeulustod cyfrannol yn amddiffyniad y gellir ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o gamweddau ac nid dim ond esgeulustod.
Ailystyried Amharodrwydd y Llysoedd i Dderbyn Volenti Ers Deddf Diwygio'r Gyfraith (Esgeulustod Cyfrannol) 1945, mae'r llysoedd wedi bod yn amharod i dderbyn volenti fel amddiffyniad, gan ffafrio rhannu colled rhwng y partïon. Trafodaeth: Pam rydych chi'n credu bod y llysoedd yn aml yn amharod i dderbyn volenti fel amddiffyniad? Mae volenti yn ddull dim neu bopeth. Ystyrir bod dosrannu colled ar sail esgeulustod cyfrannol yn ddull tecach.
Defnyddio'r amddiffyniad Esgeulustod Cyfrannol Er mwyn i amddiffyniad o esgeulustod cyfrannol lwyddo, rhaid profi bod: • Yr hawlydd wedi peidio â gofalu am ei ddiogelwch personol mewn ffordd a fu, o leiaf yn rhannol, yn gyfrifol am ei anafiadau ef/hi ac • Roedd yr hawlydd wedi peidio â chydnabod ei fod ef/hi yn rhoi ei (d)diogelwch mewn perygl er y byddai'r person rhesymol wedi gwneud felly.
Badger v Ministry of Defence [2006] Cafodd yr hawlydd ganser yr ysgyfaint o ganlyniad i ddod i gysylltiad ag asbestos yn y gwaith a bu farw. Gwnaeth ei weddw hawliad yn erbyn ei gyflogwr. Dyfarnodd yr Uchel Lys iawndal ond gan ei ostwng o 20% oherwydd ei fod wedi gwneud ei gyflwr yn waeth drwy ysmygu er bod y risg i iechyd wrth ysmygu yn hysbys yn gyffredinol.
Badger v Ministry of Defence [2006] Meistr Ustus Stanley Burnton: Yn y pen draw, yr egwyddor mewn esgeulustod cyfrannol yw bod person yn gyfrifol am ei weithredoedd. Gall ddewis bwrw ymlaen neu barhau ag ymddygiad sy'n niweidio neu’n creu’r perygl o niweidio’i iechyd ei hun; ond os gwna hynny, mae'n cario'r cyfrifoldeb am ganlyniadau ei weithredoedd. Rhaid i'r gostyngiad sy'n deg ac yn gyfiawn ystyried beiusrwydd (blameworthiness) cymharol ymddygiad y partïon. http: //www. bailii. org/ew/cases/
Cyfyngiadau ar Esgeulustod Cyfrannol • Mae'r llysoedd wedi cydnabod plant yn llai galluog i adnabod ymddygiad peryglus nag oedolion. • Y safon gofal ar gyfer achubwr yw safon gofal yr achubwr rhesymol yn hytrach na’r person rhesymol. • Mewn sefyllfa o argyfwng, mae'r llysoedd wedi derbyn na fydd gan berson ddigon o amser efallai i ddewis y ffordd orau o weithredu.
Cyfyngiadau ar Esgeulustod Cyfrannol: Gweithgaredd Gan ddefnyddio dyfais amlgyfrwng neu werslyfr, ymchwiliwch i'r achosion hyn: • Gough v Thorns [1966] • Morales v Eccleston [1991] • Baker v TE Hopkins & Sons [1959] • Jones v Boyce [1816]
Dosrannu Bai Mae dwy ffactor yn cael ystyriaeth wrth ddosrannu bai. 1. Achosiaeth: i ba raddau achosodd gweithredoedd y diffynnydd ei hun ei (h)anafiadau 2. Euogrwydd: beiusrwydd cymharol yr hawlydd a'r diffynnydd am anafiadau'r hawlydd Stapley v Gypsum Mines Ltd [1953] http: //www. bailii. org/uk/cases/
Dosrannu Bai Yn Froom v Butcher [1976], awgrymodd y Llys Apêl y gostyngiadau canlynol yn yr iawndal a ddyfarnwyd i hawlydd mewn damwain car oedd wedi peidio â gwisgo gwregys diogelwch: • Pe byddai anafiadau'r hawlydd wedi cael eu hosgoi yn llwyr wrth wisgo gwregys diogelwch: gostyngiad o 25% • Pe byddai'r hawlydd wedi cael anafiadau llai difrifol wrth wisgo gwregys diogelwch: gostyngiad o 15% • Pe byddai anafiadau'r hawlydd wedi bod yr un peth hyd yn oed wrth wisgo gwregys diogelwch: dim gostyngiad http: //www. bailii. org/ew/cases/
Gweithgaredd: Ystyried Atebolrwydd Ar gyfer y tri senario canlynol ystyriwch a yw'r gyrrwr yn atebol am eich anafiadau ac, os felly, a gaiff eich iawndal ei leihau oherwydd eich esgeulustod cyfrannol. Senario Un: Rydych yn derbyn lifft adref gan yrrwr nad ydych yn gwybod ei fod yn feddw. Mae esgeulustod y gyrrwr yn achosi damwain car. Senario Dau: Rydych yn derbyn lifft adref gan yrrwr y gwyddoch ei fod yn feddw. Mae esgeulustod y gyrrwr yn achosi damwain car. Senario Tri: Rydych yn derbyn lifft adref gan yrrwr nad ydych yn gwybod ei fod yn feddw, er y byddai'r person rhesymol wedi gwybod hynny. Mae esgeulustod y gyrrwr yn achosi damwain car.
Gweithgaredd: Dosrannu Atebolrwydd Senario Un: Rydych yn derbyn lifft adref gan yrrwr nad ydych yn gwybod ei fod yn feddw. Mae esgeulustod y gyrrwr yn achosi damwain car. Mae'r gyrrwr yn atebol. Dim gostyngiad yn yr iawndal a ddyfernir. Senario Dau: Rydych yn derbyn lifft adref gan yrrwr y gwyddoch ei fod yn feddw. Mae esgeulustod y gyrrwr yn achosi damwain car. Mae'r gyrrwr yn atebol ond bydd yr iawndal a ddyfernir i chi yn cael ei leihau (o tua 25% yn ôl pob tebyg). Senario Tri: Rydych yn derbyn lifft adref gan yrrwr nad ydych yn gwybod ei fod yn feddw, er y byddai'r person rhesymol wedi gwybod hynny. Mae esgeulustod y gyrrwr yn achosi damwain car. Mae'r gyrrwr yn atebol ond bydd yr iawndal a ddyfernir i chi yn cael ei leihau (o tua 25% yn ôl pob tebyg).
Ex Turpi Causa Non Oritur Actio • Dyma'r Lladin am: nid oes unrhyw achos yn ymgodi o hawliad gwaradwyddus (dishonourable). • Cyfeirir ato yn aml fel ‘ex turpi’. • Mae hyn yn golygu nad oes atebolrwydd mewn camwedd am anafiadau sy'n digwydd yn ystod ffordd o weithredu anghyfreithlon neu weithred anfoesol. • Byddai’r fath hawliadau yn groes i bolisi cyhoeddus.
Gweithgaredd: Ex Turpi Causa Non Oritur Actio Gan ddefnyddio gwerslyfr neu ddyfais amlgyfrwng, ymchwiliwch i'r achosion cyferbyniol canlynol. Vellino v Chief Constable of Greater Manchester Police [2001] Revill v Newberry [1996]
- Slides: 24