Adolygiad Arholiad Arlein CBAC http aaa cbac co
Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC http: //aaa. cbac. co. uk/
Gwedd gychwynnol Bydd modiwl adborth yn edrych fel hyn pan gaiff ei agor. Bydd y sleidiau canlynol yn eich tywys trwy'r modiwl enghreifftiol hwn, gan roi cyfarwyddiadau ar sut dylid ei ddefnyddio ac esbonio'r offer sydd ar gael.
Llywio trwy'r uned Mae nodau tudalen ar gael ar ochr chwith y sgrin, sy'n caniatáu i'r defnyddiwr symud o un rhan o'r uned i'r nesaf.
Data ar lefel eitem Mae'r sgrin gyntaf yn dangos y data ar lefel eitem. Cwestiwn neu ran o gwestiwn mewn sgript yw eitem. Mae'r tabl yn dangos y data ar gyfer holl ymgeiswyr CBAC sydd wedi sefyll y papur hwn. Gellir ei gymharu â data canolfan benodol er mwyn gwerthuso cyflawniadau ymgeiswyr y ganolfan. (Mae data ar lefel eitem ar gyfer canolfannau ac ymgeiswyr unigol ar gael ar wefan ddiogel CBAC. Gweler y cyflwyniad ar y cyfleuster hwn am ragor o wybodaeth).
Rhagor o wybodaeth Bydd dal y llygoden uwchben un o'r swigod siarad gwyrdd yn rhoi rhagor o wybodaeth am deitlau'r tabl.
Llywio trwy'r uned Ar ochr dde'r tabl data ar lefel eitem, mae set o flychau melyn sy'n dangos pa gwestiynau sydd wedi'u dewis ar gyfer eu dadansoddi. Gallwch fynd at gwestiwn trwy glicio ar y blwch priodol, neu trwy ddefnyddio'r nodau tudalen.
Graff ffactor hygyrchedd Mae graff sy'n dangos y Ffactor Hygyrchedd ar gael hefyd trwy glicio ar y nod tudalen ‘Graff Ffactor Hygyrchedd’.
Mynediad at gwestiwn Bydd clicio ar un o'r nodau tudalen cwestiwn gwyrdd yn dangos y cwestiwn perthnasol i'w drafod.
Y cynllun marcio Bydd clicio ar y nod tudalen ‘Cynllun marcio’ coch unrhyw bryd yn agor ffenestr newydd sy'n dangos y cynllun marcio ar gyfer y cwestiwn penodol hwnnw. Gall hyn fodoli ar y sgrin wrth i chi edrych ar y cwestiwn neu ar atebion enghreifftiol. NODER: Gallwch newid maint y ffenestr hon yn y ffordd arferol
Ateb enghreifftiol Gellir cael mynediad at ymatebion dysgwyr i'r cwestiwn hefyd (mae tair enghraifft yma). I ddechrau, gellir gweld y rhain heb farciau na sylwadau.
Ateb wedi'i farcio, gyda sylwadau Mae ymatebion dysgwyr wedi'u marcio, gyda sylwadau, ar gael hefyd. Bydd clicio ar y blwch ‘+’ yn agor cangen newydd er mwyn gallu gweld y sgript sydd wedi'i marcio (fel uchod yn enghraifft 1). Bydd clicio ar y blwch hwn eto yn cuddio'r gangen. Bydd dal y llygoden uwchben un o'r swigod siarad melyn yn agor sylwadau'r arholwyr. 0
Manteision Mae gan yr athrawon sy’n dysgu Darparu deunyddiau a fydd yn mwy nag un pwnc fynediad at y addas fel adnoddau asesu ar gyfer deunyddiau perthnasol yma ar dysgu gyda myfyrwyr. unrhyw adeg sy’n gyfleus iddyn nhw. Mae’r deunyddiau ar gael i benaethiaid adran i’w defnyddio yn ystod hyfforddiant eu hadrannau. Canolbwyntio ar godi safonau drwy arwain athrawon drwy’r broses o ddadansoddi data, adnabod problemau a hybu prosesau meddwl wrth werthuso sut mae rhai agweddau o’r pwnc yn cael eu dysgu. Fe fydd y banc yma o ddeunyddiau’n tyfu dros amser, gan ddarparu stôr o ffeiliau cymorth i athrawon, gyda chyswllt ag adnoddau dysgu ac enghreifftiau o arfer da. Deunyddiau a fydd o ddefnydd mawr i athrawon newydd eu trwyddedu, neu’r sawl sy’n dysgu pwnc arbennig am y tro cyntaf. Bydd modd eu casglu fel banc o wybodaeth ar gyfer canolbwyntio ar agwedd dros nifer o bynciau. Ôl troed carbon isel, am nad oes rhaid i athrawon deithio i dderbyn y deunyddiau – maent ar gael ar unrhyw adeg o wefan bwrpasol newydd CBAC. Deunyddiau rhad ac am ddim. Yn addas i danio trafodaethau, a chyfle i rannu syniadau yn ystod cyfarfodydd rhwng canolfannau. Bydd gan bob aelod o staff fynediad at y deunyddiau. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael drwy wefan arbennig DPP CBAC, a fydd yn sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf, drwy ffeiliau rhyngweithiol. Er bod yr unedau yma ar gael fel deunyddiau digidol rhyngweithiol, fe fydd yn bosib argraffu’r tudalennau os am ddefnyddio’r wybodaeth fel ymarfer pen a phapur.
- Slides: 12