Adborth ar TGAU Bioleg 2019 TGAU Bioleg Uned
Adborth ar TGAU Bioleg 2019
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol Uchafswm marciau = 80 Marc cymedrig = 25. 6 Cofrestriad =1645 C D E F G Ffin gradd 30 26 22 18 14 % gronnus ar y radd 37. 6 50. 9 64. 4 75. 0 83. 5
SYLWADAU CYFFREDINOL GAN YR UWCH ARHOLWR • Atebwyd y cwestiynau atebion byrrach yn dda ar y cyfan. • Roedd ansawdd y mynegiant yn broblem i lawer. • Roedd cwestiynau ar ffurf ymarferol yn achosi problemau. • Cafodd y gwaith o ddadansoddi data ei wneud yn dda gan nifer o ymgeiswyr.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 1 – Celloedd • atebwyd (a) yn dda. • Cafodd ymgeiswyr anhawster â'r term celloedd arbenigol, gyda llawer yn ailadrodd y cwestiwn. • Ychydig oedd yn gallu labelu'r oesoffagws neu gyfeirio at rôl cyhyr mewn peristalsis ond roedden nhw'n gwybod ei fod yn gwthio bwyd drwy'r system dreulio.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 2 – Ensymau • Roedd ymgeiswyr yn gallu nodi'r safle actif, cwblhau diagram i ddangos cymhlygyn ensym-swbstrad a dangos dealltwriaeth o ddadnatureiddiad. • Fodd bynnag, ychydig a allai nodi'r proteas fel yr ensym neu asidau amino fel y cynhyrchion.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 3 – Treuliad • Roedd yn amlwg o lawer o atebion bod ymgeiswyr wedi cael profiad o waith ymarferol yn cynnwys defnyddio tiwbin Visking a'u bod yn gyfarwydd â phrofion ar gyfer startsh a glwcos. • Collwyd nifer o farciau oherwydd methiant i gofio'r newidiadau lliw cywir yn gysylltiedig â chanlyniadau cadarnhaol neu i nodi bod angen gwresogi adweithydd Benedict. • Roedd llawer yn gallu adnabod rôl y tiwbin Visking yn (b), ond ychydig oedd yn gallu cysylltu gweithred carbohydrad yn (b).
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 4 – Egni mewn bwyd • Ychydig a gysylltodd y cam yn y dull â'r risg yn yr asesiad risg. • Cafwyd dealltwriaeth dda o brofi teg • Gwnaed cyfrifiadau da ac roedd y rhan fwyaf yn gallu gwneud casgliad cywir. Ychydig iawn oedd yn cydnabod pwysigrwydd mynegi gwerthoedd egni fesul gram.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 5 – Cyfnewid nwyon (AYE) • • Cymedr = 2. 2 Ffactor Hygyrchedd = 36. 2 • Roedd y rhan fwyaf yn gallu cwblhau'r hafaliad • Roedd y rhan fwyaf yn gallu disgrifio'r gwahaniaethau, dim ond yr ymgeiswyr gwell oedd yn gallu esbonio'r newidiadau. Cynnwys dangosol: • {Gwahaniaethau/ newidiadau} yn y lefelau O 2 • {Gwahaniaethau/ newidiadau} yn y lefelau CO 2 • Dim newid yn y nitrogen • Anwedd dŵr yn {cynyddu/ newid} • Cyfeirio at resbiradaeth • CO 2 yn cael ei ryddhau (mewn resbiradaeth) • O 2 yn cael ei {ddefnyddio/ mewnlifo} (mewn resbiradaeth) • (Anwedd) dŵr yn cael ei ryddhau (o'r corff) • Unrhyw gyfeiriad at gyfnewid nwyon {yn yr ysgyfaint/ alfeoli/ wrth anadlu} O 2 yn mynd i mewn i'r gwaed a CO 2 yn gadael y gwaed
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 6 – Ffotosynthesis • Roedd (a) yn anodd i'r ymgeiswyr. Ychydig a oedd yn gallu adnabod moleciwlau wedi'u trosi'n startsh neu'r cwtigl. • Gwnaed y graff yn dda gan y rhan fwyaf, yn ogystal â'r disgrifiad o'r duedd. • Achoswyd rhai problemau gan (iii) ac ychydig oedd yn gallu nodi optimwm ar gyfer ffotosynthesis neu welliant i ddod o hyd i optimwm mwy cywir.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 7/1 – Arddull PISA – y we fwyd • Cwestiwn arddull PISA – Roedd ymgeiswyr ar y ddwy haen yn gallu cwblhau'r we fwyd a'r cyfrifiad yn dda. • Roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr haen uwch yn gallu adnabod y micro-organebau sy'n gyfrifol am ryddhau byrddau cylched brintiedig (PCB). • Roedd yn syndod cyn lleied o ymgeiswyr oedd yn gallu rhoi biogynyddiad fel y broblem yn (ch) neu a oedd yn gallu rhoi ateb sy'n cyfeirio at yr anhawster wrth dorri PCB i lawr yn (dd).
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Sylfaenol CWESTIWN 8/2 – Trydarthiad • Fel arfer, nid oedd trydarthiad yn destun poblogaidd! • Prin oedd yr ymgeiswyr sylfaenol a oedd yn gallu nodi sylem neu ddefnyddiau dŵr. Cawsant eu gwneud yn well gan ymgeiswyr uwch. • Roedd y cyfrifiad yn anodd hefyd, gyda nifer prin yn deall beth i'w wneud â'r ffigurau. Roedd llawer yn talgrynnu'n anghywir ac yn colli'r marc. • Gwelwyd 'swm' / 'nifer' yn aml yn (ch)(i). Roedd llawer yn gallu rhoi 'ailadrodd' yn (ii). • Dim ond ymgeiswyr haen uwch oedd yn gallu deall beth oedd yn ofynnol
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch Uchafswm marciau = 80 Ffin gradd % gronnus ar y radd Marc cymedrig = 35. 5 Cofrestriadau = 7459 A* A B C D 44 37 30 23 16 25. 9 46. 4 68. 0 86. 4 96. 0
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch Manylion CWESTIWN 3 –Cyswllt Celloedd Liane Adams Swyddog Pwnc Bioleg 029 2026 5126 liane. adams@wjec. co. uk Lowri Evans Swyddog Cefnogaeth Pwnc 029 2026 5140 • Roedd asesiad risg yn broblem yma hefyd am yr un rhesymau â'r lowri. evans@cbac. co. uk sylfaenol. • Roedd angen lluniadu un cell yma. Roedd llawer wedi lluniadu cell cyffredinoledig. • Cafwyd atebion gwell i (c) nag a welwyd yn flaenorol, ac roedd yn braf gweld hynny.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch CWESTIWN 4 – Osmosis • Mae osmosis yn gysyniad haniaethol i ymgeiswyr ym mlwyddyn 10 ac yn anodd ei amgyffred i lawer. • Trafododd nifer mawr o ymgeiswyr symudiad siwgr neu'r hydoddiant siwgr gan negyddu'r rhan fwyaf o'r marciau a oedd ar gael. • Roedd yna hefyd fethiant i fod yn glir bod gwahaniaeth yng nghrynodiad y dŵr rhwng y tu mewn a thu allan i'r bag. • Roedd llawer yn gallu nodi'r crynodiad yn (b) a rhoi rheswm.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch CWESTIWN 5 – System resbiradol a model clochen • Cafodd (a) a (b) eu gwneud yn dda gan y rhan fwyaf. • Roedd llawer yn gallu rhoi dau gyfyngiad yn (c). Mwyaf poblogaidd – mae'r jar yn anhyblyg ac mae llen rwber yn tynnu i lawr ymhellach. • Roedd rhan (ch)(ii) yn anodd i lawer. Dangosodd rhai ymgeiswyr gamddealltwriaeth o sut mae'r model yn gweithio drwy nodi y byddai aer yn dianc allan drwy'r twll pan fyddai'r llen rwber yn cael ei dynnu i lawr.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch CWESTIWN 6 – Y System Dreulio • Nid oedd (a) na (b) yn broblem i'r rhan fwyaf. • Roedd y mwyafrif helaeth yn gallu nodi'r ensymau yn (c). Fel arfer, y gwall cyffredin yn (ii) oedd cyfeirio at y bilen sy'n torri moleciwlau mawr i lawr yn foleciwlau llai. • Achosodd (ch) rai problemau gydag ychydig o ymgeiswyr yn cyfeirio at yr ensymau yn cael eu dadnatureiddio. • Yn (d), roedd y rhan fwyaf yn gwybod ensymau yn broteinau ond nid oeddent yn gallu cyfeirio atynt yn cynnwys asidau amino gwahanol.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch • Cymedr = 2. 0 Ffactor Hygyrchedd = 33. 5 • Roedd yr AYE hwn yn heriol i ymgeiswyr ac roedd y rhan fwyaf o atebion yn y band isaf/canol. Mae'n ymddangos mai'r manteision a welwyd amlaf o'r cynnwys dangosol, ac yna'r anfanteision. Ychydig iawn oedd yn gallu rhoi disgrifiad cydlynol o rôl asesiad effaith ar yr amgylchedd. CWESTIWN 7 – Pryderon amgylcheddol (AYE) • • • Manteision • Mwy o {gig/ wyau/ bwyd} / Mwy o {gynnyrch/cynnyrch uwch} • Angen llai o dir / y cywion ieir yn cael eu cadw mewn lle llai • Bwyd rhatach • Mwy o swyddi / mwy o incwm / mwy cost effeithiol / mwy o elw / llai o egni yn cael ei golli drwy symudiad/ colli llai i ysglyfaethwyr Anfanteision • {plaleiddiad/gwrtaith} yn cael ei olchi i {nentydd/afonydd} cyfeirio at lygredd o ganlyniad i {arogl/traffig/sŵn}/ esboniad o ewtroffigedd/ plaleiddiad yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd • Gormod o ddefnydd o wrthfiotigau / cyfeirio at ddatblygu bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau • Cyfeirio at yr effaith negyddol ar les/lesiant anifeiliaid / cynnydd yn nifer yr achosion o glefydau/ mwy o achosion o glefydau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol • Cyfeirio at yr effeithiau ar {fywyd gwyllt/bioamrywiaeth} / nodi rhywogaethau sydd mewn perygl/ dinistrio cynefinoedd • Penderfynu a fydd y cynlluniau {yn mynd yn eu blaen / yn cael eu gwrthod / angen eu haddasu} / cyfeirio at
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch CWESTIWN 8 – Cynnwys bwyd • Nid oedd y rhan fwyaf yn deall y term 'swmp'. • Prin oedd y rhai a oedd yn gallu nodi'r perygl i iechyd yn (b) • Roedd y rhan fwyaf yn gallu cyfrifo'r egni, ond yn cael trafferth i drawsnewid yn k. J. Cawsant drafferth hefyd cyfrifo'r newid canrannol. • Ychydig iawn oedd yn gallu rhoi dwy ffordd roedd y cyfarpar yn gwella effeithlonrwydd. • Collodd nifer mawr o ymgeiswyr farciau drwy nodi bod y cyfarpar yn atal pob colled gwres yn hytrach na lleihau'r gwres sy'n cael ei golli.
TGAU Bioleg Uned 1 Haen Uwch CWESTIWN 9 – Ffotosynthesis a newid hinsawdd • Roedd y rhan fwyaf yn gallu rhoi'r hafaliad ffotosynthesis • Roedd llawer yn gallu defnyddio'r ddau graff i gael amcangyfrif yn (b). Yn anffodus, collodd rhai'r marc am nad oeddent wedi rhoi uned. . • Ychydig iawn a ystyriodd ffactorau cyfyngol yn eu hateb i (ii). • Collodd nifer mawr o ymgeiswyr farciau drwy nodi bod y cyfarpar yn atal pob colled gwres yn hytrach na lleihau'r gwres sy'n cael ei golli. • Roedd yn ymddangos bod rhannau (c)(i) a (ii) yn rhy anodd i'r mwyafrif o’r ymgeiswyr
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol Uchafswm marciau = 80 Marc cymedrig = 29. 2 Cofrestriad =1108 C D E F G Ffin gradd 31 25 19 13 7 % gronnus ar y radd 51. 0 71. 7 82. 9 91. 2 96. 6
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol CWESTIWN 1 – Arddull PISA – gordewdra a phrofi cyffuriau • Mae ymgeiswyr yn hoffi cwestiynau o'r arddull hwn a gwnaethant yn dda. • Roedd y ddealltwriaeth o brofi cyffuriau hefyd yn dda yn gyffredinol. Roedd peth dryswch ynghylch ystyr y term plasebo, gyda llawer yn cyfeirio at gyffuriau 'anwir' neu 'ffug'. • Roedd (c) yn gofyn i ymgeiswyr nodi manteision dewisiadau eraill yn hytrach na defnyddio anifeiliaid i brofi cyffuriau, ac nid oedd hyn yn hygyrch i'r rhan fwyaf ohonynt. Roedd y rhan fwyaf o'r atebion yn cynnwys datganiadau emosiynol heb unrhyw gyfeiriad at foeseg na manteision ymarferol.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol CWESTIWN 2 – Tyfiant bacteriol • Roedd ymgeiswyr a oedd â phrofiad o waith ymarferol mewn microbioleg a'r defnydd o dechneg aseptig yn ymdopi'n dda ag (a). • Cafodd y gwaith graff ei wneud yn dda gan y rhan fwyaf. Roedd rhai wedi hepgor y tarddiad ar yr echelin x ac nid oedd eraill wedi labelu eu llinell. • Roedd y rhan fwyaf yn gallu disgrifio ac esbonio'r duedd. • Cafodd (c) ei wneud yn wael, gydag ymgeiswyr ddim yn darllen y wybodaeth a roddwyd, a fyddai wedi rhoi'r atebion iddynt.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol CWESTIWN 3 – Rheoli croen a thymheredd (AYE) • • Cymedr = 1. 2 Ffactor Hygyrchedd = 20. 3 • Nid oedd ymgeiswyr yn gallu galw i gof enwau'r strwythurau. Labelwyd y cyhyryn sythu yn chwarren chwys yn aml. • Roedd y marciau ar gyfer yr AYE yn gyffredinol yn y band isaf. Rhoddodd llawer ddisgrifiadau cyffredinol o swyddogaethau'r croen nad oeddent yn ennill credyd. Cynnwys dangosol: • Lleihau'r {gwres sy'n cael ei golli/ colled gwres} / cadw gwres • Cyhyrau sythu'n cyfangu, • Blew yn sythu, • {dal/ trapio/ caethiwo} haen o aer/ ynysu/ cyfyngu symudiad aer ar yr arwyneb, • Llai o chwysu / dim chwys • {Llai o/ dim} anweddiad (o arwyneb y croen) • Pibellau gwaed yn darwasgu, culhau/ fasogyfyngiad • Llai o waed yn agos at arwyneb y croen • Crynu – rhyddhau (egni) gwres
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol CWESTIWN 4 – Ymladd clefydau • Nid oedd llawer o ymgeiswyr yn gallu dewis a defnyddio termau gwyddonol sy'n gysylltiedig â'r system imiwnedd, er mwyn cwblhau brawddeg. (a) • Gwnaeth llawer o ymgeiswyr yn dda ar y rhan o'r cwestiwn am faterion yn ymwneud â brechiadau rhag y pas. (b), (d) • Cafwyd mwy o anhawster pan oedd angen i ymgeiswyr ddod i gasgliadau a nodi pwyntiau o dystiolaeth i gefnogi honiadau am effeithiau newidiadau yng nghyfraddau brechiadau. (c), (ch)
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol CWESTIWN 5 – Rhywogaethau estron • Marciau gwaith maes ymarferol yn achosi problemau eto. • Ychydig iawn a allai ddisgrifio dull samplu oedd yn defnyddio cwadradau ar hap ac roedd llawer o gyfeiriadau amwys at gwadradau ond yn cael eu "taflu". Ni enillodd hyn y marciau a oedd ar gael. • Roedd nifer o ymgeiswyr yn gallu dod i gasgliadau addas o'r siart bar oedd yn cymharu dwy agwedd ar ymchwiliad, ac yn deall y cysyniad o atgynhyrchadwyedd. • Roedd y cwestiynau ynghylch rhagfynegi newidiadau mewn bioamrywiaeth yn heriol iawn i'r rhan fwyaf o ymgeiswyr ac ni chawsant eu hateb yn dda.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol CWESTIWN 6/1 – Geneteg ac amrywiad • Fel arfer, gallai ymgeiswyr nodi'r cromosomau rhyw cywir ar gyfer gwrywod a benywod dynol a chwblhau'r Sgwâr Punnet. • Gwnaed y cyfrifiadau'n dda fel arfer, yn ogystal â chwestiwn y rhagdybiaeth. • Prin oedd y rhai a allai nodi'r anghywirdeb yn y dull ar y naill haen neu'r llall.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Sylfaenol / Haen Uwch CWESTIWN 7/2 – Coed teuluoedd ac addasu genetig • Prin oedd y rhai a allai ddiffinio'r term alel enciliol, ond roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr haen uwch yn gallu disgrifio effaith mwtaniad • Roedd y rhan fwyaf yn gallu nodi dau unigolyn heterosygaidd yn (ii) ond wedi ei chael yn anodd ennill credyd am II. • Roedd rhai yn gallu rhoi dull ar gyfer cyflwyno'r capsiwlau lipid yn (c)(i), ond ychydig iawn oedd yn gallu rhoi unrhyw anawsterau ar gyfer (ii) neu awgrymu pam nad yw'n iachâd.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch Uchafswm marciau = 80 A* Ffin gradd % gronnus ar y radd Marc cymedrig = 40. 0 A Cofrestriadau = 6251 B C D 47 40 32 25 18 28. 2 51. 4 77. 2 92. 8 98. 7
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch Manylion Cyswllt CWESTIWN 3–Y system nerfol Liane Adams Swyddog Pwnc Bioleg 029 2026 5126 liane. adams@wjec. co. uk Lowri Evans Swyddog Cefnogaeth Pwnc 029 2026 5140 lowri. evans@cbac. co. uk • Ni chafodd y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr broblem gyda'r cwestiwn hwn ac enillon nhw farciau uchel.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch CWESTIWN 4 – Lledaeniad clefydau • Cafodd ymgeiswyr drafferth â natur galw i gof rhannau (a), ond roedden nhw'n gallu atal y lledaeniad yn (b). • Gwnaed y cyfrifiadau'n dda. • Roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn tueddu i ailosod y cwestiwn yn rhan (ch). Yr ateb mwyaf cyffredin a welwyd oedd 'i godi ymwybyddiaeth o sut i atal clamydia rhag lledaenu’.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch CWESTIWN 5 – Amrywiad a chipio/ailgipio • Y cwestiwn hwn oedd yr ail fwyaf hygyrch ar y papur cyfan. Mae hyn yn awgrymu bod y testun hwn yn cael ei addysgu'n dda yn y rhan fwyaf o ganolfannau. • Rhan (d) oedd yn peri'r her fwyaf i ymgeiswyr, gyda nifer mawr yn anwybyddu'r cwestiwn drwy roi un rhagofal yn unig neu roi dau ragofal oedd yn gysylltiedig â'r dechneg farcio.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch CWESTIWN 6 – System ysgarthol ac AYE • Cymedr = 2. 6 • Ffactor Hygyrchedd = 44. 1 • Roedd yr ymgeiswyr yn gywir wrth gysylltu mwy o ADH i gyfeintiau llai a chrynodiadau uwch o wrin. • Y pethau a adawyd allan yn fwyaf aml oedd y rheiny oedd yn gysylltiedig â'r gwaed, e. e. dim cyfeiriad at lefelau dŵr isel yn y gwaed, ADH yn cael ei gludo yn y gwaed, a dŵr yn cael ei adamsugno yn ôl i mewn i'r gwaed.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch CWESTIWN 7 – Proffilio genetig • Dim ond nifer bach o ymgeiswyr oedd yn gallu disgrifio'r broses o broffilio genetig yn gywir • Cafodd ymgeiswyr drafferth gyda rhan (b). Atebion a welwyd oedd 'mae bandiau'r oen yn debyg i'r ddafad, felly mae'r oen yn perthyn i'r ddafad ', gan awgrymu nad oeddynt wedi astudio bôn y cwestiwn yn fanwl, gan fod hyn wedi'i nodi'n glir yno. • Atebwyd (c) yn dda.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch CWESTIWN 8 – Tyfiant bacteriol • Roedd yn syndod pa mor wael cafodd (a) ei wneud. • Roedd y rhan fwyaf yn gallu rhoi un dechneg aseptig yn (b). Fodd bynnag, rhoddodd llawer ateb difeddwl i'r cwestiwn ynghylch tymheredd. • Gwelwyd sawl gwall gwahanol yn y cyfrifiad yn (c). Roedd y rhain yn cynnwys peidio â defnyddio ffurf safonol, talgrynnu anghywir a chyfrif anghywir. Bydd dangos y gwaith cyfrifo yn helpu i ennill rhai marciau. • Cafodd (ch) a (d) eu gwneud yn dda gan y rhan fwyaf.
TGAU Bioleg Uned 2 Haen Uwch CWESTIWN 9 – Celloedd bonyn • Roedd galw i gof yn broblem yn rhannau (a) a (b). • Roedd y rhan fwyaf yn gallu nodi mitosis yn (c) ond roedd llai wedi defnyddio diagram 2 i helpu i adnabod mitosis yn caniatáu ar gyfer cynhyrchu mwy o gelloedd. • Roedd (ch) ond yn gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio'r diagram ond ychydig a sylweddolodd na fyddai gan lygaid wedi'u difrodi unrhyw gelloedd bonyn iach. • Roedd y rhan fwyaf yn gallu rhoi dwy fantais yn (d).
TGAU Bioleg PWYNTIAU I'W NODI • Dylid atgoffa'r ymgeiswyr i astudio'r geiriau gorchymyn mewn cwestiwn a nifer y marciau sydd ar gael. • Wrth astudio'r testunau, byddai o fudd i ymgeiswyr pe baent yn cael y cyfle i gymhwyso'u gwybodaeth wyddonol i faterion gwyddonol cyfoes. • Mae galw termau a diffiniadau i gof yn parhau i fod yn her, a dylai canolfannau edrych ar dechnegau gwahanol i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. • Mae angen annog ymgeiswyr i ddefnyddio'r holl wybodaeth a roddir iddyn nhw ym môn y cwestiwn ac unrhyw ddiagramau a roddir.
Unrhyw Gwestiynau?
- Slides: 37