3 Deddf Newton CBAC Ffiseg Uned 2 2
3 Deddf Newton CBAC Ffiseg Uned 2 - 2. 2 CBAC Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 6 - 6. 2
Edrychwch ar y delweddau canlynol ar y tudalennau sy’n dilyn ac ychwanegwch unrhyw rymoedd ar eich map swigod isod (defnyddiwch y pen): Enwau rhai grymoedd cyffredin
1 Yn ôl
2 Yn ôl
3 Yn ôl
4 Yn ôl
5 Yn ôl
Grymoedd Cytbwys a Deddf Mudiant Gyntaf Newton Grymoedd cytbwys Grymoedd yn rhwystro’r symudiad Gwthiad ymlaen Os yw grymoedd ar wrthrych yn gytbwys: • Mae gwrthrych llonydd yn aros yn llonydd • Mae gwrthrych sydd eisoes yn symud yn parhau i symud i’r un cyfeiriad ac ar yr un buanedd Deddf Mudiant Gyntaf Newton Gwyliwch y fideo canlynol ac ysgrifennwch ddiffiniad ar gyfer Deddf Mudiant Gyntaf Newton. https: //www. youtube. com/watch? v=LEHR 8 YQNm_Q
Grymoedd anghytbwys ac Ail Ddeddf Mudiant Newton Grymoedd cytbwys Grymoedd yn rhwystro’r symudiad Gwthiad ymlaen Os yw grymoedd ar wrthrych yn anghytbwys: • Mae gwrthrych llonydd yn dechrau symud • Mae gwrthrych sydd eisoes yn symud yn dechrau cyflymu Ail Ddeddf Mudiant Newton Gwyliwch y fideo canlynol ac ysgrifennwch ddiffiniad ar gyfer Ail Mudiant Gyntaf Newton. https: //www. youtube. com/watch? v=Zv. Prn 3 a. BQG 8
Grymoedd Cydeffaith Mae mwy nag un grym yn gweithredu ar wrthrych fel arfer. Bydd yr effaith cyffredinol ar wrthrych yn dibynnu ar faint a chyfeiriad yr holl rymoedd. Bydd mudiant y gwrthrych yn dibynnu ar y grym cydeffaith. Mae hyn yn cael ei gyfrifo trwy adio’r holl rymoedd at ei gilydd, gan gymryd eu cyfeiriad i ystyriaeth. Grym tynnu y tîm glas Grym tynnu y tîm coch 250 N 350 N Grym cydeffaith tuad at y tîm glas 100 N
Cymhwyso Ail Ddeddf Mudiant Newton – Grym, Màs a Chyflymiad Mae’r grym cydeffaith sy’n gweithredu ar wrthrych yn ymwneud â màs a chyflymiad y gwrthrych. grym = màs x cyflymiad Unedau: Grym cydeffaith - Newtonau (N) Màs – cilogramau (kg) Cyflymiad – metrau yr eiliad (m/s 2) TASG Aildrefnwch yr hafaliad uchod i roi: Màs = Cyflymiad =
Answers Cwestiynau 1. Mae gan gar màs o 1 000 kg. Pa rym mae’n rhaid i beiriant y car ei ddarparu i achosi cyflymiad o 5 m/s 2? Dangos/ cuddio ateb 1 2. Mae gan lori fàs o rhwng 1 000 a 12 000 kg. Pa gyflymiad sy’n cael ei achosi gan rym o 10 000 N? Dangos/ cuddio ateb 2 0. 83 m/s 2 Dangos/ cuddio ateb 3 7500 N Dangos/ cuddio ateb 4 1333 kg Dangos/ cuddio ateb 5 2. 125 m/s 2 3. Mae gan gar fàs o 750 kg. Pa rym sydd ei angen i’w gyflymu i 10 m/s 2? 4. Mae car yn cyflymu ar 6 m/s 2 wrth i’w beiriant ddarparu grym o 8 000 N. Beth yw màs y car? 5. Mae gan awyren jet fàs o 400 000 N. Os yw ei pheiriannau yn cynhyrchu grym o 850 000 N, pa gyflymiad mae’n ei gynhyrchu? 5000 N
Màs a Phwysau Mae màs a phwysau yn ddau faint ffisegol sydd yn cael eu drysu yn aml. Gwyliwch y fideo canlynol: https: //www. youtube. com/watch? v=1 wh. MAIGNq 7 E Defnyddiwch y fideo i gwblhau y tabl canlynol:
Cyfrifo pwysau o màs Màs (kg) 0. 1 kg 0. 5 kg 1. 3 kg Pwysau (N) 1 N 5 N 75 kg Sut allwn ni gyfrifo pwysau gwrthrych os ydym yn gwybod ei fàs (mewn kg)? Pwysau (N) = Màs (kg) x 10
Cyfrifo màs o bwysau Pwysau (N) 750 500 200 Màs (kg) 75 50 2 Sut allwn ni gyfrifo màs gwrthrych os ydym ni’n gwybod ei bwysau (mewn N)? Màs (kg) = Pwysau (N) 10
Cyflymder terfynol awyr blymiwr Mae pwysau yn llawer uwch na gwrthiant aer felly. . . gwrthiant aer yn cynyddu wrth i fuanedd gyflymu Mae’r parasiwt wrth agor yn achosi gwrthiant aer mawr i ddechrau felly. . mae gwrthiant aer yn lleihau wrth i’r plymiwr awyr arafu Mae gwrthiant yn cydbwyso’r pwysau felly. . mae cyflymder terfynol yn cael ei gyrraedd. Mae gwrthiant aer yn hafal i’r pwysau unwaith eto. Mae buanedd terfynol newydd yn cael ei gyrraedd.
Grymoedd yn Gweithio mewn Parau Grym ‘A’ yr ydych chi yn ei roi ar y troli Grym ‘B’ arnoch chi (gan y troli) sydd o’r un cryfder ag ‘A’ ond mewn cyfeiriad dirgroes. Grym A Grym B Buanedd cyson Does dim ots i ba gyfeiriad y byddwch yn rhoi grym ar y troli, bydd y troli’n rhoi grym o’r un maint a’r un fath, ond i gyfeiriad dirgroes i chi. Nid yw’r grymoedd yn canslo ei gilydd am fod y ddau rym yn gweithredu ar gyrff gwahanol.
Trydedd Deddf Mudiant Newton Mae’r ffaith bod grymoedd yn gweithredu mewn parau yn ffurfio sail i Drydedd Deddf Mudiant Newton sy’n nodi: Os yw gwrthrych A yn rhoi grym ar wrthrych B, yna mae gwrthrych B yn rhoi grym hafal ond dirgroes ar wrthrych A. Mae’r parau o rymoedd hyn sy’n gweithredu rhwng dau wrthrych weithiau’n cael eu galw’n barau gweithredadwaith.
Enghreifftiau o barau gweithred-adwaith Mae grym y pwysau am i lawr ar y bwrdd yn achosi grym adwaith am i fyny gan y bwrdd ar y llyfr
Mae grym y nwyon am i lawr yn achosi gwthiad am i fyny ar y wennol ofod
Mae grym am ymlaen y bêl ganon yn achosi grym am yn ôl ar y canon
- Slides: 21