1 Cynnwys Cyflwyniad tud 3 Modelau ar gyfer

  • Slides: 33
Download presentation
1

1

Cynnwys Cyflwyniad tud 3 Modelau ar gyfer addysgu • Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS

Cynnwys Cyflwyniad tud 3 Modelau ar gyfer addysgu • Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS tud 5 • Cyfarwyddyd Uniongyrchol tud 7 • Dysgu Drwy Brofiad tud 9 • Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol tud 11 • Pum Cam Cyfarwyddyd tud 13 • Rhyddhau Cyfrifoldeb yn Raddol tud 15 • Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Addysgu tud 17 • Sicrhau bod Pob Gwers yn Gwneud Gwahaniaeth tud 19 • Addysgu hyd Feistrolaeth tud 21 • Cydymaith Athrawon Newydd tud 23 • Naw Digwyddiad ar gyfer Cyfarwyddyd tud 25 • Egwyddorion Cyfarwyddyd Rosenshine tud 27 • Dysgu Myfyrwyr sy’n Taro Deuddeg tud 29 Rhestr Gyfeiriadau tud 31 2

Cyflwyniad Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod

Cyflwyniad Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol. (Ll. C) Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth’. (Llywodraeth Cymru, 2020) Cydnabyddir mai’r un peth mwyaf pwerus i ysgogi cynnydd yng nghyrhaeddiad dysgwyr yw ansawdd yr addysgu a nodir hynny mewn llawer iawn o waith ymchwil. Yn ôl y Sefydliad Gwaddol Addysgol (2020), ‘Ochr yn ochr ag ymyriadau wedi’u targedu, gwella ansawdd yr addysgu yw’r ysgogiad cryfaf sydd gan ysgolion i wella canlyniadau disgyblion, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr difreintiedig’ Mae’n wir hefyd bod nifer o addysgwyr, er mwyn cefnogi addysg o ansawdd uchel, wedi darparu ‘modelau’ sy’n awgrymu fframwaith penodol ar gyfer cyflawni hyn. Gall y modelau hyn fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddarparu fframwaith ar gyfer ysgol er mwyn sicrhau cysondeb dulliau addysgu. Fodd bynnag, mae yna risg bod deunydd cymhleth yn cael ei orsymleiddio neu bod yna ddealltwriaeth arwynebol o’r egwyddorion sy’n sail iddynt, ac o’r herwydd mae’n bosibl bod y bwriad gwreiddiol yn cael ei golli. 3

 • Mae’n rhaid i bob ymarferwr ddeall yn glir nad yw addysgu o

• Mae’n rhaid i bob ymarferwr ddeall yn glir nad yw addysgu o ansawdd uchel yn fformiwla. Yn hytrach, mae gan addysg o ansawdd uchel y nodweddion canlynol: • mae’n seiliedig ar ddealltwriaeth glir o addysgeg gan arweinwyr ac ymarferwyr; • caiff ei ddarparu’n gyson ar draws yr ysgolion; • caiff ei adolygu’n rheolaidd er mwyn mesur effeithiolrwydd • mae yna ddealltwriaeth sylfaenol o’r rhesymau dros dreialu neu ddefnyddio strategaethau penodol • mae’n seiliedig ar benderfyniadau sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag anghenion dysgwyr • mae’n seiliedig ar ymchwil ac yn ymwneud â thystiolaeth, • mae’n gysylltiedig â gweledigaeth glir a gweledigaeth a rennir ar draws yr ysgol ac y mae staff wedi’u grymuso i’w gwireddu Nod y ddogfen hon yw casglu a rhannu gwybodaeth am fodelau amrywiol ar gyfer addysgu mewn fformat cymharol sydd ar gael yn rhwydd er mwyn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr ysgol wrth iddynt wneud penderfyniau’n seiliedig ar wybodaeth am ddull parhaus eu hysgolion o ran addysgu o ansawdd uchel ar gyfer yr holl ymarferwyr. Ni ddylid defnyddio model heb ystyried y cyd-destun y mae pob ysgol yn gweithredu ynddo, ac mae’n debyg y bydd model/au penodol yr ysgol yn esblygu wrth gael eu defnyddio yn seiliedig ar adborth gan aelodau staff a dysgwyr am yr hyn sy’n gweithio’n dda a gwerthuso’r effaith ar ddysgu. In education at least, what works is generally the wrong question, because most ideas that people have had work in some contexts but not in others. Put bluntly, everything works somewhere and nothing works everywhere (Wiliam, D. 2018) 4

Cyfnod neu Gam Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS Ennyn Diddordeb Ymgysylltu Gosod nodau ar

Cyfnod neu Gam Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS Ennyn Diddordeb Ymgysylltu Gosod nodau ar gyfer dysgu Arwain dysgu newydd Archwilio Egluro Cydgrynhoi dysgu Ymhelaethu a myfyrio arno Defnyddio math Gwerthuso newydd o ddysgu Yr hyn y mae Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS yn ei wneud/yr hyn yw: • Nod pum cam Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS yw hwyluso’r broses o newid cysyniadol. • Mae defnyddio’r model hwn yn dod â chysondeb i strategaethau addysgu gwahanol, darparu cysylltiadau ymysg gweithgareddau addysgol, ac mae’n helpu athrawon gwyddoniaeth i wneud penerfyniadau am yr ymwneud â myfyrwyr. • Dyma pob cam y model ac ymadrodd byr i ddangos ei ddiben o safbwynt myfyriwr: • Ymgysylltu – canfod gwybodaeth flaenorol myfyrwyr ac ennyn eu diddordeb yn y ffenomenon • Archwilio – mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n hwyluso newid cysyniadol • Egluro – mae myfyrwyr yn llunio eglurhad o’r ffenomenon • Ymhelaethu – caiff dealltwriaeth myfyrwyr o’r ffenomenon ei herio a’i ddyfnhau drwy gyfrwng profiadau newydd • Gwerthuso- mae myfyrwyr yn asesu eu dealltwriaeth o’r ffenomenon Model Cyfarwyddiadol 5 C BSCS 5 https: //bscs. org/bscs-5 E-instructional-model/

YMGYSYLLTU: canfod gwybodaeth flaenorol ac ennyn eu diddordeb yn y ffenomenon Model Cyfarwyddiadol 5

YMGYSYLLTU: canfod gwybodaeth flaenorol ac ennyn eu diddordeb yn y ffenomenon Model Cyfarwyddiadol 5 C ARCHWILIO: cymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n hwyluso newid cysyniadol EGLURO: mae dysgwyr yn llunio eglurhad o’r ffenomenon YMHELAETHU: dealltwriaeth o’r ffenomenon wedi’i herio a’i ddyfnhau drwy gyfrwng brofiadau newydd GWERTHUSO: mae dysgwyr yn asesu eu dealltwriaeth o’r ffenomenon 6

Cyfnod neu Gam Cyfarwyddyd Uniongyrchol Engelmann Ennyn Diddordeb Cyflwyno cysyniad newydd/adolygu dysgu blaenorol Gosod

Cyfnod neu Gam Cyfarwyddyd Uniongyrchol Engelmann Ennyn Diddordeb Cyflwyno cysyniad newydd/adolygu dysgu blaenorol Gosod nodau ar gyfer dysgu Arwain dysgu Cyflwyno cynnwys gydag newydd enghreifftiau/nonexamples Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Ymateb myfyrwyr Defnyddio dysgu newydd Ymarfer annibynnol Adborth athrawon Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Mae Cyfarwyddyd Uniongyrchol yn fodel ar gyfer addysgu sy’n pwysleisio gwersi sydd wedi’u datlygu’n dda ac wedi’u cynllunio’n ofalus sydd wedi’u paratoi’n seiliedig ar gynyddrannau dysgu bach a thasgau addysgu wedi’u diffinio a’u rhagnodi’n glir. Mae’n seiliedig ar y ddamcaniaeth y gall cyfarwyddiadau eglur sy’n osgoi camddehongliadau wella a chyflymu dysgu i raddau helaeth. Mae Cyfarwyddyd Uniongyrchol yn galluogi ymarferwyr i nodi’r hyn y mae myfyrwyr yn ei wybod, yr hyn nad ydynt yn ei ddeall eto, a’r meysydd lle maen nhw angen ymarfer neu gymorth ychwanegol, a chanolbwyntio ar hynny. Mae gan Gyfarwyddyd Uniongyrchol bum egwyddor athronyddol allweddol a phedwar prif nodwedd. Caiff dysgwyr eu gosod a’u grwpio yn ôl lefel eu sgiliau a chânt eu dysgu hyd feistrolaeth. Dylid sicrhau bod grwpiau’n unffurf mewn perthynas â lefel perrfformiad cyfredol dysgwyr, a dylai’r grwpiau hyn fod yn hyblyg er mwyn ymgorffori cyfraddau gwahanol o ran dysgu myfyrwyr. Cyfarwyddyd Uniongyrchol Englemann https: //www. nifdi. org 7

Cyflwyno cysyniad newydd/adolygu dysgu blaenorol. Gwneud rhain yn ddi-fai drwy gyfathrebu rhesymegol cwbl berffaith

Cyflwyno cysyniad newydd/adolygu dysgu blaenorol. Gwneud rhain yn ddi-fai drwy gyfathrebu rhesymegol cwbl berffaith Cyflwyno cynnwys gydag enghreifftiau/pethau sydd ddim yn enghreifftiau Rhagweld y bydd y dysgwr yn dysgu’r cysyniad a gyfleir gan y cyflwyniad di-fai. Ymateb myfyrwyr Arsylwi a yw’r dysgwr yn dysgu’r cysyniad a fwriadwyd neu a yw’r dysgwr yn cael trafferth Adborth athrawon Faint o’r mecanweithiau angenrheidiol i ymateb i gyflwyniad di-fai y cysyniad y mae’r dysgwr yn meddu arnynt neu ddim yn meddu arnynt. Ymarfer annibynnol Llunio cyfarwyddyd i’r dysgwr aflwyddiannus a fydd yn addasu gallu’r dysgwr i ymateb i’r cyflwyniad di-fai. Cyfarwyddyd Uniongyrchol 8

Cyfnod neu Gam Dysgu Drwy Brofiad Kolb Ennyn Diddordeb Cynrychiolir damcaniaeth Kolb am arddull

Cyfnod neu Gam Dysgu Drwy Brofiad Kolb Ennyn Diddordeb Cynrychiolir damcaniaeth Kolb am arddull Dysgu Drwy Brofiad fel arfer gan gylch dysgu pedwar cam lle mae’r dysgwr yn cwmpasu’r holl hanfodion: 1. Profiad Cadarn – profiad neu sefyllfa newydd, neu ailddehongli profiad sydd eisoes yn bodoli. Gosod nodau ar gyfer dysgu Arwain dysgu newydd Profiad cadarn Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Creu Cysyniad Haniaethol Defnyddio dysgu newydd Arbrofi gweithredol Arsylwi myfyriol 2. Arsylwi’n fyfyriol ar y profiad newydd – mae unrhyw anghysondebau rhwng profiad a dealltwriaeth yn arbennig o bwysig. 3. Mae myfyrio mewn dull o Greu Cysyniad Haniaethol yn arwain at syniad newydd, neu addasiad o gysyniad haniaethol sydd eisoes yn bodoli (mae’r unigolyn wedi dysgu o’i brofiad). 4. Arbrofi Gweithredol – mae’r dysgwr yn rhoi ei syniad(au) ar waith yn y byd o’i gwmpas er mwyn gweld beth yw’r canlyniad. Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Cylch Dysgu Kolb https: //www. simplypsychology. org/learning-kolb. html 9

PROFIAD CADARN (gwneud / cael profiad) ARBROFI GWEITHREDOL (cynllunio / rhoi’r hyn rydych wedi’i

PROFIAD CADARN (gwneud / cael profiad) ARBROFI GWEITHREDOL (cynllunio / rhoi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith) Dysgu Drwy Brofiad ARSYLWI MYFYRIOL (adolygu / myfyrio ar y profiad) CREU CYSYNIAD HANIAETHOL (casgliadau / dysgu o’r profiad) 10

Cyfnod neu Gam Ennyn Diddordeb Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol (EDI) Hollingsworth & Ybarra Rhoi gwybodaeth

Cyfnod neu Gam Ennyn Diddordeb Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol (EDI) Hollingsworth & Ybarra Rhoi gwybodaeth flaenorol ar waith Gosod nodau ar gyfer dysgu Amcan dysgu Arwain dysgu newydd Datblygu cysyniad Datblygu sgìl Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Ymarfer wedi’i arwain Perthnasedd Defnyddio dysgu newydd Cloi Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Mae Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol yn ddull o ddysgu sy’n seiliedig ar y gwaith ymchwil gorau sydd ar gael, ac mae’n helpu athrawon i ddarparu gwersi effeithiol sy’n gallu gwella cyrhaeddiad yn sylweddol ar gyfer pob dysgwr, yn cynnwys y rhai sy’n dysgu Saesneg a myfyrwyr sydd ag anghenion arbennig. Datblygwyd Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol gan Dr Silvia Ybarra a John Hollingsworth, sylfaenwyr Data. WORKS. Mae Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol yn canolbwyntio ar wella addysg ar lefel y wers drwy ymgorffori casgliad strategol o arferion cyfarwyddiadol o waith ymchwilwyr addysgol a gwybyddol fel Hattie, Rosenshine, Hunter, Sousa a Marzano. Yn ei hanfod, mae Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol yn addysgu’n benodol mewn camau bach gan sicrhau bod disgyblion yn cael llwyddiant. Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol https: //dataworks-ed. com/trainings/edi/ 11

Rhoi gwybodaeth flaenorol ar waith Cysylltu â dysgu blaenorol Amcan dysgu Bwriadau tryloyw a

Rhoi gwybodaeth flaenorol ar waith Cysylltu â dysgu blaenorol Amcan dysgu Bwriadau tryloyw a meini prawf llwyddiant Cyfarwyddyd Uniongyrchol Penodol Datblygu cysyniad Modelu pam Datblygu sgìl Modelu sut Ymarfer wedi’i arwain Datblygu rhuglder a chywiro gwallau Perthnasedd Ymarfer / defnyddio annibynnol Cloi Adolygu ac asesu’r dysgu o’r wers 12

Cyfnod neu Gam Pum Cam Cyfarwyddyd Silver and Strong Ennyn Diddordeb Paratoi myfyrwyr ar

Cyfnod neu Gam Pum Cam Cyfarwyddyd Silver and Strong Ennyn Diddordeb Paratoi myfyrwyr ar gyfer dysgu newydd Gosod nodau ar gyfer dysgu Arwain dysgu newydd Cyflwyno dysgu newydd Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Dyfnhau ac atgyfnerthu dysgu Rhoi’r dysgu ar waith Defnyddio dysgu newydd Myfyrio ar ddysgu a’i ddathlu Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Pum Cam Cyfarwyddyd Cam 1: Paratoi Myfyrwyr ar gyfer Dysgu Newydd: Mae Dysgu’n cychwyn gyda sylw. Felly, yn ystod y cam hwn, mae athrawon yn dwyn sylw myfyrwyr ac yn helpu myfyrwyr i roi gwybodaeth flaenorol ar waith. Mae athrawon yn cyfeirio sylw myfyrwyr hefyd at y dysgu a fydd yn digwydd hefyd drwy sefydlu targedau dysgu clir. Cam 2: Cyflwyno/Caffael Dysgu Newydd. Mae dysgu angen ffocws. Mae athrawon yn gwneud mwy na chyflwyno cynnwys yn ystod y cam hwn; maen nhw’n helpu myfyrwyr i fynd ati i brosesu’r cynnwys a thrawsnewid gwybodaeth yn syniadau mawr a manylion pwysig. Cam 3: Dyfnhau ac Atgyfnerthu Dysgu: Mae dysgwyr angen cyfleoedd i grydgryhoi’r dysgu. Felly yn ystod y cam hwn, mae athrawon yn cynnwys myfyrwyr mewn ymarfer strategol er mwyn eu helpu i gadarnhau eu dealltwriaeth o’r cynnwys allweddol a chynyddu eu meistrolaeth o sgiliau newydd. Cam 4: Rhoi’r Dysgu ar Waith a’i Ddangos: Mae dysgwyr yn cydgrynhoi ac ymestyn y dysgu ymhellach drwy ei roi ar waith. Felly, yn ystod y cam hwn, mae athrawon yn herio myfyrwyr i ddangos, cyfuno, a throsglwyddo eu dysgu. Cam 5: Myfyrio ar Ddysgu a’i Ddathlu: Mae’r broses gyfan hon yn well drwy fyfyrio gweithredol. Mae athrawon yn helpu myfyrwyr i adolygu eu dysgu, dysgu oddi wrtho a’i ddathlu —a’u proses o ddysgu. Pum Cam Cyfarwyddyd http: //www. ascd. org/ascd-express/vol 13/Making-Lessons-Memorable 13 Designing-from-Two-Perspectives. aspx

Cam 1: Paratoi Myfyrwyr ar gyfer Dysgu Newydd: Rhoi gwybodaeth flaenorol ar waith, sefydlu

Cam 1: Paratoi Myfyrwyr ar gyfer Dysgu Newydd: Rhoi gwybodaeth flaenorol ar waith, sefydlu targedau dysgu clir Cam 2: Cyflwyno/Caffael Dysgu Newydd: Helpu dysgwyr i fynd ati i brosesu’r cynnwys a thrawsnewid gwybodaeth yn syniadau mawr a manylion pwysig. Cam 3: Dyfnhau ac Atgyfnerthu Dysgu: Cynnws myfyrwyr mewn ymarfer strategol er mwyn eu helpu i gadarnhau eu dealltwriaeth o’r prif gynnwys a chynyddu eu meistrolaeth o sgiliau newydd. Cam 4: Rhoi’r Dysgu ar Waith a’i Ddangos: Mae athrawon yn herio myyrwyr i ddangos, cyfuno a throsglwyddo eu dysgu. Pum Cam Cyfarwyddyd Cam 5: Myfyrio ar Ddysgu a’i Ddathlu: Mae athrawon yn helpu dysgwyr i adolygu eu dysgu, dysgu oddi wrtho a’i ddathu —a’u proses o ddysgu. 14

Cyfnod neu Gam Rhyddhau Cyfrifoldeb yn Raddol (GRR) Fisher & Frey Ennyn Diddordeb Gosod

Cyfnod neu Gam Rhyddhau Cyfrifoldeb yn Raddol (GRR) Fisher & Frey Ennyn Diddordeb Gosod nodau Rhoi ffocws i’r wers ar gyfer dysgu Arwain dysgu Cyfarwyddyd wedi’i newydd arwain (“Rydw i’n gwneud”) Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Cyfarwyddyd wedi’i arwain (“Rydym ni’n gwneud”) Gwaith grŵp cynhyrchiol Defnyddio Dysgu annibynnol dysgu (“Rydych chi’n gwneud”) newydd Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Mae’r model Rhyddhau Cyfrifoldeb yn Raddol neu’r model GRR yn arddull benodol o addysgu sy’n ddull strwythuredig o addysgeg wedi’i fframio o amgylch proses sy’n datganoli cyfrifoldeb yn y broses ddysgu o’r athro i annibyniaeth y dysgwr yn y pen draw. Dan y model cyfarwyddiadol, mae’n ofynnol i’r athro, yn ei hanfod, bontio o gymryd yr holl gyfrifoldeb am gyflawni tasg i sefyllfa lle mae’r myfyriwr yn cymryd yr holl gyfrifoldeb. Y canlyniad delfrydol yw dysgwr hyderus sy’n derbyn cyfrifoldeb am eu ddysgu ei hun ac yn cyfeirio’r dysgu hwn drwy’r prosesau gwybyddol dan sylw, gan symud drwy’r sbectrwm academaidd, i ddewis annibynnol (dysgu personol). Fel y nododd Buehl (2005), mae’r model GRR yn gwneud y canlynol, "emphasizes instruction that mentors students into becoming capable thinkers and learners when handling the tasks with which they have not yet developed expertise". Rhyddhau cyfrifoldeb yn raddol https: //en. wikipedia. org/wiki/Gradual_release_of_responsibility 15

Rhyddhau Cyfrifoldeb yn Raddol Rhoi ffocws i’r wers Cyfarwyddyd wedi’i arwain (“Rydw i’n gwneud”)

Rhyddhau Cyfrifoldeb yn Raddol Rhoi ffocws i’r wers Cyfarwyddyd wedi’i arwain (“Rydw i’n gwneud”) Cyfarwyddyd wedi’i arwain (“Rydym ni’n gwneud”) Gwaith grŵp cynhyrchiol Dysgu annibynnol (“Rydym ni’n gwneud”) (“Rydych chi’n gwneud”) 16

Cyfnod neu Gam Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Athrawon Evidence Based Education Ennyn Diddordeb

Cyfnod neu Gam Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Athrawon Evidence Based Education Ennyn Diddordeb Gosod nodau ar Deall y cyd-destun gyfer dysgu Creu amgylchedd cefnogol Arwain dysgu newydd Manteisio i’r eithaf ar y cyfle i ddysgu Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Defnyddio dysgu newydd Eu hysgogi i feddwl yn ddwys Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Addysgu Y nod yw helpu athrawon i wneud gwell penderfyniadau am y ffyrdd gorau o wella eu heffeithiolrwydd. Nodir pedair blaenoriaeth ar gyfer athrawon sydd am helpu eu myfyrwyr i ddysgu mwy: 1. deall y cynnwys y maen nhw’n ei addysgu a’r ffordd y caiff ei ddysgu 2. creu amgylchedd cefnogol ar gyfer dysgu 3. rheoli’r ystafell ddoosbath er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle i ddysgu 4. cyflwyno cynnwys, gweithgareddau a rhyngweithio sy’n ysgogi’r myfyrwyr i feddwl Model sy’n cynnwys y pedair diensiwn trosfwaol hyn, sy’n cynnwys cyfanswm o 17 o elfennau. Diffinnir ‘elfen’ fel rhywbeth a allai fod yn werth buddsoddi amser ac ymdrech ynddo er mwyn datblygu cymhwysedd, sgìl a gwybodaeth benodol, neu i wella’r amgylchedd dysgu. Nid oes unrhyw awgrym y gellir lleihau cymhlethdod addysgu i gyfres o dechnegau, ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod y ffordd orau o gael arbenigedd yn debygol o fod yn ddull sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymhwyseddau, wedi’i arwain gan adborth ffurfiannol mewn amgylchedd dysgu proffesiynool cefnogol. Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Addysgu https: //www. greatteaching. com/ 17

Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Addysgu Eu hysgogi i feddwl yn ddwys Strwythuro Manteisio

Pecyn Cymorth Gwych ar gyfer Addysgu Eu hysgogi i feddwl yn ddwys Strwythuro Manteisio hyd eithaf ar y cyfleoedd i ddysgu Creu amgylchedd cefnogol Egluro Rheoli amser ac adnoddau Cwestiynu Deall y cynnwys Gwybodaeth ddofn am y pwnc Gwybodaeth cwricwlwm Gwybodaeth asesu Gwybodaeth am Rhyngweithio a chysylltiadau Rhyngweithio Hinsawdd cadarnhaol Rheolau a disgwyliadau clir a chyson Brwdfrydedd dysgwyr Hinsawdd o ddisgwyliadau Atgyfnerthu cadarnhaol Sefydlu Gweithredu 18

Cyfnod neu Gam Sicrhau bod Pob Gwers yn Gwneud Gwahaniaeth (Making Every Lesson Count)

Cyfnod neu Gam Sicrhau bod Pob Gwers yn Gwneud Gwahaniaeth (Making Every Lesson Count) Allison & Tharby Ennyn Diddordeb Gosod nodau Herio ar gyfer dysgu Mae’r llyfr Making Every Lesson Count yn pontio’r bwlch rhwng canfyddiadau ymchwil ac ymarfer yr ystafell ddosbarth. Mae Shaun Allison ac Andy Tharby yn archwilio’r dystiolaeth o’r hyn sy’n gwneud addysgu gwych ac yn archwilio ffyrdd o’i roi ar waith yn yr ystafell ddosbarth er mwyn gwneud gwahaniaeth i ddysgu. Maen nhw’n crynhoi addysgu a dysgu yn chwe egwyddor graidd: herio, egluro, modelu, ymarfer, adborth a chwestiynu, ac yn dangos sut gall y rhain ysbrydoli ethos o ragoriaeth a thwf, nid yn unig mewn ystafelloedd dosbarth unigol ond ar draws yr ysgol gyfan. Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Cwestiynu Mae’r llyfr yn cyfuno tystiolaeth gadarn o feysydd amrywiol gyda doethineb ymarferol athrawon dosbarth profiadol ac effeithiol, ac mae’n becyn cymorth cyflawn o strategaethau y gall athrawon eu defnyddio ym mhob gwers er mwyn sicrhau bod y wers honno’n gwneud gwahaniaeth. Nid oes unrhyw gimics yn y llyfr, dim ond addysgu effaith uchel gyda ffocws sy’n arwain at ddysgu gwych, ym mhob gwers, bob dydd. Defnyddio dysgu newydd Adborth Mae’r model hwn yn cynnig dewis amgen sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diffiniadau cyfyngiadol o addysgu gwych, gan rymuso athrawon i ddarparu gwersi gwych a dathlu ymarfer o ansawdd uchel. Arwain dysgu Egluro newydd Modelu Allison S. a Tharby A. , (2015) 19

Ar gyfer addysgu arbenigol, mae angen … Herio Fel bod gan… Ddysgwyr ddisgwyliadau o’r

Ar gyfer addysgu arbenigol, mae angen … Herio Fel bod gan… Ddysgwyr ddisgwyliadau o’r hyn y gallant ei gyflawni Sicrhau Bod Pob Gwers yn Gwneud Gwahaniaeth Cwestiynu Fel bod … Dysgwyr yn gallu meddwl yn ddwys yn estynedig gyda dyfnder a chywirdeb Adborth Fel bod… Dysgwyr yn ystyried eu gwybodaeth a’u sgiliau a’u datblygu ymhellach Scaffolding Egluro Fel bod … Dysgwyr yn caffael gwybodaeth a sgiliau newydd Modelu Fel bod… Dysgwyr yn gwybod sut i ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymarfer bwriadol 20

Cyfnod neu Gam Addysgu hyd Feistrolaeth Hunter Ennyn Diddordeb Set rhagflaenorol Addysgu hyd Feistrolaeth

Cyfnod neu Gam Addysgu hyd Feistrolaeth Hunter Ennyn Diddordeb Set rhagflaenorol Addysgu hyd Feistrolaeth Mae Madeline Hunter wedi cyfuno nifer o strategaethau cyfarwyddyd uniongyrchol yn un dull cymharol gynhwysfawr a’r term amdano yw addysgu hyd feistrolaeth (peidiwch â’i gymysgu â ‘r term cysylltiedig ‘dysgu hyd feistrolaeth’). Gosod nodau Amcan a diben ar gyfer dysgu Beth sy’n digwydd cyn i wers gychwyn hyd yn oed? Fel sawl math o gyfarwyddyd a arweinir gan athrawon, mae’r model angen nodau cwricwlwm a dysgu sydd wedi’u trefnu’n ofalus ac y gellir eu rhannu yn gydrannau, yn syniadau, neu’n sgiliau bach. Arwain dysgu Mewnbwn newydd Modelu Unwaith y mae’r gwaith hwn o ddadansoddi’r cwricwlwm wedi’i wneud, dan fodel addysgu effeithiol Hunter, mae’n ofynnol gwneud y gorau o amser y wers drwy greu set rhagflaenorol, sy’n weithgaredd sy’n dwyn sylw neu’n cyfeirio sylw’r myfyrwyr at y cynnwys nesaf. Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Gydol y wers, mae’r athro‘n gwirio dro ar ôl tro bod y myfyrwyr wedi deall drwy ofyn cwestiynau sy’n gofyn am waith meddwl dwys ar ran y myfyrwyr. Gwirio eu bod wedi deall Ymarfer wedi’i arwain Defnyddio Ymarfer annibynnol math newydd o ddysgu Cloi Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Wrth i wers ddirwyn i ben, mae’r athro’n trefnu i fyfyrwyr gael ymarfer annibynnol pellach. Nid diben yr ymarfer yw ymchwilio i ddeunyddiau neu syniadau newydd, ond i gydgrynhoi neu gryfhau’r dysgu diweddar. Addysgu hyd Feistrolaeth https: //uk. sagepub. com/en-gb/afr/madeline-hunters-masteryteaching/book 225807? id=51755 21

Addysgu hyd Feistrolaeth Set rhagflaenorol: Gweithgaredd byr i ysgogi dysgwyr a rhoi ffocws iddynt

Addysgu hyd Feistrolaeth Set rhagflaenorol: Gweithgaredd byr i ysgogi dysgwyr a rhoi ffocws iddynt Astudiaeth annibynnol: Cadarnhau sgiliau a gwybodaeth Amcan dysgu: Wedi’i rannu â’r dysgwyr Ymarfer wedi’i arwain: Dangos sgìl neu gysyniad gydag adborth uniongyrchol Mewnbwn: Egluro cysyniadau a sgiliau Gwirio eu bod wedi deall: Cwestiynu ar sawl lefel 22

Cydymaith Athrawon Newydd Cyfnod neu Gam Cydymaith Athrawon Newydd Cunningham Cam 1: Cyflwyniad •

Cydymaith Athrawon Newydd Cyfnod neu Gam Cydymaith Athrawon Newydd Cunningham Cam 1: Cyflwyniad • Gosod diben. Cyflwyno’r cysyniadau allweddol, pwnc, prif syniad. • Cynnwys myfyrwyr yng nghyffro’r dysgu. • Sicrhau bod y dysgu’n berthnasol Ennyn Diddordeb Cyflwyniad Cam 2: Sylfaen • Gwirio’r wybodaeth flaenorol. • Egluro prif bwyntiau. • Canolbwyntio ar safonau, amcanion, nodau penodol. • Gwirio am gywirdeb a’i ychwanegu at wybodaeth gefndirol. • Cyflwyno geirfa allweddol. Gosod nodau ar Sylfaen gyfer dysgu Arwain dysgu newydd Tanio’r ymennydd Corff o wybodaeth newydd Cydgrynhoi Eglurhad dysgu a myfyrio arno Ymarfer ac adolygu Defnyddio dysgu newydd Ymarfer annibynnol Cloi Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Cam 3: Tanio’r Ymennydd • Gofyn cwestiynau er mwyn egluro syniadau ac i ychwanegu gwybodaeth. • Sesiwn taflu syniadau ar gyfer y prif elfennau. • Egluro a chywiro camargraffiadau. Cam 4: Corff o Wybodaeth Newydd • Darparu mewnbwn yr athro. Cam 5: Eglurhad • Gwirio eu bod wedi deall gyda phroblemau, sefyllfaoedd a chwestiynau enghreifftiol. Cam 6: Ymarfer ac Adolygu • Rhoi amser ar gyfer ymarfer ac adolygu. Cam 7: Ymarfer Annibynnol • Goruchwylio ymarfer annibynnol myfyrwyr. Cam 8: Cloi • Dirwyn y wers i ben. Cydymaith Athrawon Newydd http: //www. ascd. org/Publications/Books/Overview/The-New-Teachers 23 Companion. aspx

Cam 1: Cyflwyniad • Gosod diben. Cyflwyno’r cysyniadau allweddol, pwnc, prif syniad. • Cynnwys

Cam 1: Cyflwyniad • Gosod diben. Cyflwyno’r cysyniadau allweddol, pwnc, prif syniad. • Cynnwys myfyrwyr yng nghyffro’r dysgu. • Sicrhau bod y dysgu’n berthnasol. Cam 2: Sylfaen • Gwirio’r wybodaeth flaenorol. • Egluro prif bwyntiau. • Canolbwyntio ar safonau, amcanion, nodau penodol. • Gwirio am gywirdeb a’i ychwanegu at wybodaeth gefndirol. • Cyflwyno geirfa allweddol. Cam 3: Tanio’r Ymennydd • Gofyn cwestiynau er mwyn egluro syniadau ac i ychwanegu . gwybodaeth. • Sesiwn taflu syniadau ar gyfer y prif elfennau. • Egluro a chywiro camargraffiadau. Cam 4: Corff o Wybodaeth Newydd • Darparu mewnbwn yr athro. Cam 5: Eglurhad • Gwirio bod dysgwyr wedi deall gyda phroblemau, sefyllfaoedd a chwestiynau enghreifftiol Cam 6: Ymarfer ac Adolygu Rhoi amser ar gyfer ymarfer ac adolygu. Cam 7: Ymarfer Annibynnol • Goruchwylio ymarfer annibynnol myfyrwyr. Cam 8: Cloi • Dirwyn y wers i ben. Cydymaith Athrawon 24

Cyfnod neu Gam Naw Digwyddiad ar gyfer Cyfarwyddyd Gagné Ennyn Diddordeb Dal sylw Gosod

Cyfnod neu Gam Naw Digwyddiad ar gyfer Cyfarwyddyd Gagné Ennyn Diddordeb Dal sylw Gosod nodau Hysbysu’r dysgwr o’r amcan ar gyfer dysgu Arwain dysgu Eu hysgogi i gofio’r dysgu blaenorol newydd Cyflwyno’r wybodaeth ysgogol Naw Digwyddiad ar gyfer Cyfarwyddyd Roedd Robert Gagne yn seicolegydd addysgol a luniodd broses 9 cam o’r enw 'Events of Instruction'. Mae’r model hwn yn broses systematig sy’n helpu addysgwyr a chynllunwyr cyfarwyddiadau i ddatblygu strategaethau a chreu gweithgareddau ar gyfer sesiynau hyfforddi Darparu canllawiau dysgu Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Ysgogi’r perfformiad Darparu adborth Asesu’r perfformiad Defnyddio Gwella lefelau cadw a throsglwyddo math newydd o ddysgu Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Naw digwyddiad ar gyfer cyfarwyddyd https: //mylove 4 learning. com/robert-gagne-and-the-9 -events-ofinstruction/ 25

Naw Digwyddiad ar gyfer Cyfarwyddyd Dal sylw Eu hysgogi i gofio’r dysgu blaenorol Hysbysu

Naw Digwyddiad ar gyfer Cyfarwyddyd Dal sylw Eu hysgogi i gofio’r dysgu blaenorol Hysbysu dysgwyr o amcanion Darparu adborth Darparu canllawiau Cyflwyno’r cynnwys Ysgogi perfformiad Gwella lefelau cadw a throsglwyddo Asesu perfformiad 26

Cyfnod neu Gam Egwyddorion Cyfarwyddyd Rosenshine Ennyn Diddordeb Cychwyn gwers gydag adolygiad byr o’r

Cyfnod neu Gam Egwyddorion Cyfarwyddyd Rosenshine Ennyn Diddordeb Cychwyn gwers gydag adolygiad byr o’r dysgu blaenorol. Gosod nodau Cyflwyno deunydd newydd mewn camau bach gydag ymarfer myfyrwyr ar ôl pob ar gyfer cam. dysgu Arwain dysgu Gofyn llawer o gwestiynau a gwirio ymatebion pob myfyriwr. newydd Darparu modelau. Llywio ymarfer myfyrwyr. Darparu cefnogaeth ar gyfer tasgau anodd. Gwneud ymarfer annibynnol yn ofynnol a’i fonitro. Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Gwirio bod y myfyriwr wedi deall. Defnyddio dysgu newydd Cynnwys myfyrwyr mewn adolygiad wythnosol a misol Sherrignton, T. (2019) Egwyddorion Cyfarwyddyd Rosenshine 1. 2. Cychwyn gwers gydag adolygiad byr o’r dysgu blaenorol. Cyflwyno deunydd newydd mewn camau bach gydag ymarfer myfyrwyr ar ôl pob cam. 3. Gofyn llawer o gwestiynau a gwirio ymatebion pob myfyriwr. 4. Darparu modelau. 5. Llywio ymarfer myfyrwyr. 6. Gwirio bod y myfyriwr wedi deall. 7. Cael cyfradd llwyddiant uchel. 8. Darparu cefnogaeth ar gyfer tasgau anodd. 9. Gwneud ymarfer annibynnol yn ofynnol a’i fonitro. 10. Cynnwys myfyrwyr mewn adolygiad wythnosol a misol. Ydy’r holl egwyddorion yn berthnasol i bob gwers? Mae’n bwysig iawn peidio ag ystyried yr Egwyddorion fel rhyw fath o gynllun gwersi. Bydd yn ofynnol cael ffocws gwahanol ar gyfer gwahanol wersi mewn patrwm dysgu: efallai bod gan rai ddull modelu mwy eglurhaol; mwy o gwestiynu neu mwy o ymarfer annibynnol. Efallai bydd gennych wersi cyfan o ymarfer a gwersi cyfan o fodelu a chwestiynu athrawon. Efallai na fyddwch yn gwneud ‘adolygiad dyddiol’ bob dydd fel y cyfryw. Fodd bynnag, dros gyfres o wersi sy’n gysylltiedig â phatrwm cadarn, efallai y byddech yn disgwyl i holl elfennau’r Egwyddorion ymddangos mewn un ffurf neu’r llall. Cael cyfradd llwyddo uchel. Egwyddorion Rosenshine https: //teacherhead. com/2019/10/02/rosenshinesprinciples-10 -faqs/ 27

Cychwyn gwers gydag adolygiad byr o’r dysgu blaenorol. Cyflwyno deunydd newydd mewn camau bach

Cychwyn gwers gydag adolygiad byr o’r dysgu blaenorol. Cyflwyno deunydd newydd mewn camau bach gydag ymarfer myfyrwyr ar ôl pob cam. Cynnwys myfyrwyr mewn adolygiad wythnosol a misol. Gwneud ymarfer annibynnol yn ofynnol a’i fonitro. Gofyn llawer o gwestiynau a gwirio ymatebion pob myfyriwr. Darparu cefnogaeth ar gyfer tasgau anodd. Darparu modelau. Cael cyfradd llwyddiant uchel. Llywio ymarfer myfyrwyr. Gwirio bod y myfyriwr wedi deall. Egwyddorion Cyfarwyddyd Rosenshine 28

Cyfnod neu Gam Dysgu Myfyrwyr sy’n Taro Deuddeg Mc. Rel Ennyn Diddordeb Dechrau dangos

Cyfnod neu Gam Dysgu Myfyrwyr sy’n Taro Deuddeg Mc. Rel Ennyn Diddordeb Dechrau dangos diddordeb Gosod nodau Ymrwymo i ddysgu ar gyfer dysgu Arwain dysgu Canolbwyntio ar ddysgu newydd Cydgrynhoi dysgu a myfyrio arno Gwneud synnwyr o ddysgu Ymarfer a myfyrio Defnyddio Ymestyn y dysgu a’i roi ar math newydd waith o ddysgu Hubbell, E R. , Goodwin, B. , (2019) Dysgu Myfyrwyr sy’n Taro Deuddeg Byddai model dysgu’n disgrifio’r broses o ddysgu o’r cychwyn hyd at y diwedd – o’r funud y mae darn newydd o wybodaeth yn cyrraedd ymwybyddiaeth myfyriwr drwy’r siwrne hir a pheryglus y mae’n rhaid iddi ei chymryd cyn dod o hyd i gartref parhaol yn ei gof tymor hir. (Sousa, 2011). Byddai model o’r fath yn ein helpu i gynllunio profiadau dysgu effeithiol ar gyfer pob myfyriwr. Yn ogystal, ac yr un mor bwysig, os nad ydynt yn dysgu, gall y model ein helpu i ganfod ble mae’r rhwystr neu’r anhawster – sef ym mhle yn union y mae’r wybodaeth yn cael ei cholli ar ei siwrne. Nid yw Mc. REL yn cynnig fframwaith arall, ond cyfuniad o’r gwyddoniaeth dysgu wedi’i osod mewn model y gallwch ei dilyn a’i defnyddio yn syth yn eich ystafell ddosbarth. Nid yw’n cael ei gynnig fel yr unig ffordd o addysgu, ond yn hytrach fel un ffordd o ddatblygu ymarfer mwy arbenigol yn eich ystafell ddosbarth. Mae un peth pwysig yn digwydd pan fyddwn yn cynllunio gwersi yn seiliedig ar ddysgu ac nid addysgu yn unig Dysgu Myfyrwyr sy’n Taro Deuddeg https: //www. mcrel. org/student-learning-that-works-wp/ 29

Dechrau Dangos Diddordeb: Ysgogiadau yn ein cofrestr gwybyddol yn dwyn ein sylw Canolbwyntio ar

Dechrau Dangos Diddordeb: Ysgogiadau yn ein cofrestr gwybyddol yn dwyn ein sylw Canolbwyntio ar wybodaeth newydd: Rydym yn canolbwyntio ar wybodaeth a sgiliau newydd tra byddant yn ein cof gweithredol Ailadrodd ac Ymarfer: Ailadrodd ac adfer er mwyn ein helpu i storio dysgu newydd yn y cof tymor hir Dysgu Myfyrwyr sy’n Ymrwymo i ddysgu: Rydym yn penderfynu pa elfennau sy’n haeddu rhagor o sylw Gwneud synnwyr o ddysgu: Clystyru gwybodaeth a’i chysylltu â dysgu blaenorol Ymestyn y dysgu a’i roi ar waith: Mae rhoi dysgu newydd ar waith mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon yn cefnogi’r 30 broses o adfer

Rhestr Gyfeiriadau Allison, S. a Tharby, A. (2015). Making Every Lesson Count, Crown House

Rhestr Gyfeiriadau Allison, S. a Tharby, A. (2015). Making Every Lesson Count, Crown House Publishing Ltd, Cymru ASCD (2020). Making Learning Memorable, Ar gael yn http: //www. ascd. org/ascd-express/vol 13/Making-Lessons. Memorable-Designing-from-Two-Perspectives. aspx [Cyrchwyd 11 Awst 2020] BSCS Science Learning (2020). BSCS 5 E Instructional Model, Ar gael yn: https: //bscs. org/bscs-5 e-instructional-model/ [Cafwyd mynediad 11 Awst 2020] Cunningham, G. (2009). The New Teacher’s Companion: Practical Wisdom for Succeeding in the Classroom, ASCD, Alexandria, VA Data. WORKS Educational Research (2020). Explicit Direct Instruction Workshop, Ar gael yn https: //dataworksed. com/trainings/edi/ [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Teaching Evidence Based Education (2020). Great Toolkit, Ar gael yn https: //www. greatteaching. com [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Hubbell, E. R. , Goodwin, B. (2019). Instructional Models How to Choose One and How to Use One. Mc. Rel International, Denver. 31

Hunter, M. (2004). Mastery Teaching: Increasing Instructional Effectiveness in Elementary and Secondary Schools, (Ail

Hunter, M. (2004). Mastery Teaching: Increasing Instructional Effectiveness in Elementary and Secondary Schools, (Ail Argraffiad), Santa Susana Elementary School, Simi Valley, CA Mc. REL International (2018) White Paper: Student Learning That Works: How brain science informs a student learning model, Ar gael yn https: //www. mcrel. org/student-learning-that-works-wp/ [Cyrchwyd 11 Awst 2020] My Love 4 Learning (2019). Robert Gagne and the 9 Events of Instruction, Ar gael yn https: //mylove 4 learning. com/robert-gagne-and-the-9 -events-of-instruction/ [Cyrchwyd 11 Awst 2020] National Institute for Direct Instruction (2020). The Gold Standard in Direct Instruction, Ar gael yn: https: //www. nifdi. org [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Sherrington, T. (2019). Rosenshine’s Principles in Action, John Catt Education Ltd, Woodbridge Simply Psychology (2020). Kolb’s Learning Styles and Experiential Learning Cycle, Ar gael yn: https: //www. simplypsychology. org/learning-kolb. html [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Teacherhead (2019). Rosenshine’s Principles: 10 FAQs, Ar gael yn https: //teacherhead. com/2019/10/02/rosenshinesprinciples-10 -faqs/ [Cyrchwyd 11 Awst 2020] 32

Llywodraeth Cymru (2020). Cwricwlwm i Gymru, Ar gael yn: https: //hwb. gov. wales/cwricwlwm-i-gymru/cyflwyniad/ [Cyrchwyd

Llywodraeth Cymru (2020). Cwricwlwm i Gymru, Ar gael yn: https: //hwb. gov. wales/cwricwlwm-i-gymru/cyflwyniad/ [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Llywodraeth Cymru (2020). Cwricwlwm i Gymru, Ar gael yn: https: //hwb. gov. wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunioeich-cwricwlwm/ystyriaethau-gweithredu-ac-ymarferol/#pedagogy [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Wikipedia (2020). Gradual Release of Responsibility, Ar gael yn https: //en. wikipedia. org/wiki/Gradual_release_of_responsibility [Cyrchwyd 11 Awst 2020] Wiliam, D. (2018). Creating The Schools Our Children Need, Learning Sciences International, West Palm Beach 33